Bydd tîm dynion Cymru yn dychwelyd i’r Cae Ras yn Wrecsam er mwyn herio Gibraltar ym mis Hydref.
Y tro diwethaf i dîm pêl-droed dynion Cymru chwarae yn Wrecsam oedd yn erbyn Trinidad a Tobago ym mis Mawrth 2019, pan wnaeth Ben Woodburn sgorio i ennill y gêm 1-0.
Cae Ras STōK yw’r stadiwm bêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, a chwaraeodd Cymru yno am y tro cyntaf yn 1877.
Mae gwaith adnewyddu ar y gweill yno, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n gobeithio y bydd yr ailddatblygiad yn creu mwy o gyfleoedd i ddod â gemau holl dimau rhyngwladol Cymru i’r ardal.
Bydd lle i 5,000 arall eistedd yn y stadiwm wedi’r gwaith, a bydd y Cae Ras yn rhan o’r cais i gynnal rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewro Dan 19 oed UEFA 2026.
‘Hynod o gyffrous’
Dywedodd Noel Mooeny, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, eu bod nhw’n “hynod o gyffrous” bod pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i’r gogledd ym mis Hydref.
“Mae aelodau’r Wal Goch yn yr ardal yn dangos ymroddiad enfawr wrth deithio’n aml i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ein gemau rhagbrofol,” meddai.
“Rwy’n obeithiol y byddwn ni’n medru rhoi perfformiad campus ar gyfer y gêm yn erbyn Gibraltar.”
‘Ymrwymiad i gynnal gemau yn y gogledd’
Ychwanegodd Steve Williams, Llywydd y Gymdeithas: “Fe ges i fy magu yn yr ardal ac rwy’n hynod o falch i weld Cymru yn dychwelyd i’r STōK Cae Ras unwaith eto.
“Mae’r gêm yn dangos bod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ymrwymiad i gynnal pêl-droed rhyngwladol yng ngogledd Cymru ar draws pob un o’n timau cenedlaethol, a bod Wrecsam yn rhan allweddol o’n hymgais i gynnal pencampwriaeth UEFA EURO Dan 19 2026 a fydd yn dathlu pen-blwydd 150 oed y Gymdeithas.”
Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gêm ar Hydref 11 yn cael ei gyhoeddi mor fuan â phosib, yn ôl y Gymdeithas Bêl-droed.