Cheltenham yw lleoliad gêm Bencampwriaeth tîm criced Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 20).

Mae Colin Ingram, y batiwr tramor o Dde Affrica, yn dychwelyd i’r garfan yn lle Michael Neser, y bowliwr cyflym o Awstralia sydd wedi ailymuno â’r garfan genedlaethol ar gyfer Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr.

Hefyd yn dychwelyd i’r garfan mae’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, a hynny ar ôl chwarae ei gêm pedwar diwrnod gyntaf ers pedair blynedd yn erbyn Durham fis diwethaf.

Gorffennodd gêm ddiwetha’r sir Gymreig yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn gyfartal ar ôl cyfnodau hir o law ar ddau ddiwrnod cynta’r ornest, ac mae Morgannwg yn parhau’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth y tymor hwn ac yn bedwerydd yn yr Ail Adran, 13 o bwyntiau islaw’r safleoedd dyrchafiad.

Roedd Neser yn allweddol yn yr ornest honno, wrth daro 176 heb fod allan, gyda’i gydwladwr Mitchell Swepson yn taro 69 wrth i Forgannwg achub eu hunain o 93 am saith i gyrraedd 403 am naw cyn cau’r batiad ar y trydydd diwrnod.

Mae Swydd Gaerloyw’n seithfed yn y tabl ar ôl chwe gêm gyfartal a thair colled.

Gemau’r gorffennol

Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg ymweld â Cheltenham ers 2017, pan gollon nhw o ddeg wiced o fewn deuddydd, ar ôl i 25 o wicedi gwympo ar y diwrnod cyntaf, gyda Liam Norwell yn cipio chwech am 38 ar yr ail ddiwrnod.

Tarodd Cameron Bancroft a Chris Dent hanner canred yr un wrth i’r Saeson gwrso 135 i ennill.

Morgannwg oedd yn fuddugol 13 o flynyddoedd yn ôl, serch hynny, a hynny o 176 o rediadau wrth i’r troellwr Robert Croft gipio hatric i ennill yr ornest.

Roedden nhw’n gyfartal yn 1991, gyda Morgannwg yn fuddugol o ddwy wiced yn 2002 ac o ddeg wiced yn 2006 wrth i Mike Powell daro 299 wrth glosio at record Steve James (309 heb fod allan).

Yn yr ornest honno, cipiodd Croft 13 o wicedi dros y ddau fatiad cyn i Brendon McCullum, prif hyfforddwr presennol tîm prawf Lloegr, sicrhau’r fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf gyda’i frand enwog o glatsio.

Carfan Swydd Gaerloyw: J Bracey (capten), L Charlesworth, B Charlesworth, C Dent, Zafar Gohar, D Goodman, M Hammond, J Phillips, O Price, T Price, J Shaw, M Taylor, P van Meekeren

Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, A Gorvin, S Northeast, M Swepson, Zain Ul Hassan, P Sisodiya, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten)

Sgorfwrdd