Fydd Ryan Giggs ddim yn wynebu ail achos llys.

Roedd disgwyl iddo wynebu ail achos ar ôl i’r rheithgor yn yr achos gwreiddiol fethu â dod i benderfyniad ar gyhuddiadau ei fod e wedi ymosod ar ei gyn-gariad Katie Greville ac wedi ei rheoli drwy orfodaeth.

Cafodd y cyhuddiadau eu tynnu’n ôl gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Manceinion, lle roedd disgwyl i’r ail achos ddechrau ar Orffennaf 31.

Roedd cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru’n wynebu cyhuddiad pellach o ymosod ar chwaer ei gyn-gariad, ond yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Methodd y rheithgor â dod i ddyfarniad ar ôl mwy nag ugain awr o drafodaeth fis Awst y llynedd.

Cafwyd e’n ddieuog o’r holl gyhuddiadau, ond doedd e ddim yn y llys i glywed y dyfarniad.

Yn ôl ei fargyfreithiwr, mae’n teimlo “rhyddhad mawr” yn sgil y dyafarniad ac yn bwriadu “ailadeiladu” ei fywyd a’i yrfa.

Ymddiswyddodd o’i swydd yn rheolwr Cymru fis Mehefin y llynedd, ddwy flynedd ar ôl iddo gamu o’r neilltu dros dro wedi iddo gael ei arestio.