Bydd tîm pêl-droed Wrecsam yn herio Chelsea yn fyw ar S4C nos Iau (Gorffennaf 20).

Mae’r gêm yn rhan o baratoadau tîm Phil Parkinson ar gyfer y tymor newydd yn yr Ail Adran, ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaethol i’r Gynghrair Bêl-droed.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Kenan yng Ngogledd Carolina, gyda’r gic gyntaf am 1 o’r gloch y bore ac uchafbwyntiau i’w gweld nos Iau am 9 o’r gloch.

Yn ystod eu taith i’r Unol Daleithiau, bydd Wrecsam hefyd yn wynebu Manchester United, LA Galaxy II a Philadelphia Union II.

Mae gan S4C berthynas agos gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, gan ddarlledu gemau yn ystod rhediad Wrecsam yng Nghwpan FA Lloegr y tymor diwethaf, a’r gyfres ddogfen Wrecsam… Clwb Ni! oedd yn dilyn hynt a helynt y clwb pêl-droed, y cefnogwyr a’r gymuned leol.

Yn ddiweddar, gwnaeth S4C lofnodi cytundeb masnachol gyda Ryan Reynolds, cyd-berchennog Wrecsam, a’i sianel newydd Maximum Effort, sy’n dangos cynnwys S4C ar ‘Welsh Wednesdays’ i gynulleidfa ar draws yr Unol Daleithiau.

‘Mwy o sylw i Wrecsam’

Yn ôl y sylwebydd Malcolm Allen, bydd y gêm hon yn dod â mwy fyth o sylw i Wrecsam.

“Mae hyn yn grêt i Wrecsam – am gêm iddyn nhw!” meddai.

“Nid yn aml y gallwch chi wylio unrhyw glwb o Gymru yn chwarae ar lwyfan mor fawr, a hefyd yn fyw ar S4C.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y chwaraewr newydd Will Boyle yn chwarae – chwaraewr cryf, newydd i Wrecsam.

“Bydd yn ddiddorol gweld pa mor heini yw’r bechgyn – mae ysbryd gwych yn y tîm.

“Bydd y chwaraewyr eisiau profi pwynt yn erbyn tîm fel Chelsea.”

‘Chwarae rhan yn y bwrlwm’

“Mae’n wych gallu darlledu gêm Wrecsam yn erbyn Chelsea ar S4C wrth iddyn nhw baratoi i ddychwelyd i Gynghrair Bêl-droed Lloegr,” meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C.

“Mae S4C yn falch o chwarae rhan yn y bwrlwm o amgylch y clwb a’r dref mewn cyfnod sy’n profi’n gyfnod cyffrous i Glwb Pêl-droed Wrecsam.”

Cyhoeddodd S4C yn ddiweddar y bydd yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028, gan sicrhau bod y gemau ar gael i wylwyr am ddim.

Bydd gwylwyr yn gallu gwylio uchafbwyntiau gemau rhyngwladol merched Cymru ar S4C, yn ogystal â darllediadau byw o ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Pencampwriaethau UEFA dan 21 ar gyfer Ewro 2025 yn Slofacia.