Mae Aled Siôn Davies wedi cipio pumed medal aur y byd yn y taflu pwysau F63.

Daeth ei lwyddiant yn Paris gyda thafliad o 16.16m ar ei ymgais olaf ond un ar noson olaf Pencampwriaethau Para-athletau’r Byd.

Dyma degfed medal aur Prydain yn y gystadleuaeth, ac fe aeth y fedal arian i Sajad Mohammadian o Iran am dafliad o 14.38m, a’r fedal efydd i Edenilson Roberto o Frasil am dafliad o 14.06m.

Ar ei dudalen Twitter ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 16), dywedodd y Cymro Cymraeg iddo “ddysgu grym dyfalbarhad” a’i fod yn “caru’r gêm hon” a’r bobol mae’n “ei rhannu hi gyda nhw”.

Dyma’r fedal ddiweddaraf i athletwyr o Gymru ar ddiwedd wythnos lwyddiannus.

Cipiodd Michael Jenkins fedal arian yn y taflu pwysau F38, a hynny wrth gystadlu dros Brydain am y tro cyntaf.

Roedd tafliad y cyn-chwaraewr rygbi (17.14m) yn record Ewropeaidd.

Yn y naid hir T38, roedd medal arian i Olivia Breen, sydd wedi bod yn dioddef o anaf i’w ffêr.

Neidiodd hi bellter o 5.04m – ei pherfformiad gorau y tymor hwn – gyda Luka Ekler o Hwngari’n fuddugol gyda phellter o 5.77m.

Enillodd y Gymraes y fedal aur yn y 100m T38 yng Ngemau’r Gymanwlad y llynedd, ond y naid hir yw ei phrif gamp erbyn hyn.