Gallai Ethan Ampadu, amddiffynnwr a chwaraewr canol cae amddiffynnol Cymru, symud i Leeds.

Mae ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb gyda Chelsea, ond mae e wedi treulio’r tymhorau diwethaf ar fenthyg yn Lloegr, yr Almaen a’r Eidal.

Roedd disgwyl iddo fe deithio i’r Unol Daleithiau gyda charfan Mauricio Pochettino, ond fydd e ddim bellach yn mynd gan fod trafodaethau ar y gweill ynghylch ei ddyfodol.

Mae lle i gredu bod Leeds wedi gwneud cais i’w arwyddo, a bod Chelsea yn gofyn am hyd at £12m amdano fe.

Mae e wedi ennill 44 o gapiau dros Gymru, ac yntau ond yn 22 oed o hyd.

Cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2020 yn 2021, ond fe gafodd e gerdyn coch yn erbyn yr Eidal – y chwaraewr ieuengaf erioed i gael ei anfon o’r cae yn yr Ewros.

Roedd e hefyd yn aelod o garfan Rob Page ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn ystod y gaeaf.