Mae Ynys Môn yn dathlu eu nifer fwyaf erioed o fedalau yng Ngemau’r Ynysoedd.

Enillon nhw ddeunaw o fedalau i gyd – chwe aur, saith arian a phum efydd – wrth iddyn nhw gystadlu yn erbyn 23 o ynysoedd eraill ddiwedd yr wythnos.

Ymhlith y perfformiadau gorau roedd rasys 800m a 1500m Iolo Hughes, wrth iddo ennill medal aur yn y naill a’r llall, ac roedd llwyddiant hefyd i’w chwaer Cari yn yr un rasys.

Torrodd Osian Perrin y record am yr amser gorau erioed yn y ras 5,000m, a daeth Ffion Roberts i’r brig yn y ras 400m, ynghyd â David Tavernor yn y gystadleuaeth Colomennod Clai Agored.

Roedd medal aur i dîm pêl-droed yr ynys, wrth iddyn nhw golli yn erbyn Jersey yn y rownd derfynol.

Record flaenorol yr ynys o ran medalau oedd 14, a hynny wrth iddyn nhw ennill dwy aur, tair arian a naw efydd yn 2015, ac fe wnaethon nhw ragori hefyd ar eu record o bum medal aur gafodd ei gosod yn Jersey yn 1997.

Mae’r Gemau wedi’u cynnal ers 1985, ac roedd Ynys Môn ymhlith y timau cyntaf i gystadlu.

‘Camp ragorol’

Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, wedi llongyfarch yr ynys ar eu llwyddiant – o’r cystadleuwyr i’r hyfforddwyr, y staff cynorthwyol a’r gwirfoddolwyr sy’n rhan o Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd ym Môn.

“Dyma Gemau’r Ynysoedd mwyaf llwyddiannus Ynys Môn,” meddai.

“Mae’n gamp ragorol ac yn ganlyniad i’r holl waith caled sydd wedi’i wneud gan Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn.

“Cafwyd nifer o berfformiadau gwych yn ystod y Gemau ac mae Tîm Ynys Môn wedi ein gwneud yn falch iawn ohonynt unwaith eto.

“Dwi’n siŵr y byddant yn ysbrydoli athletwyr a chystadleuwyr y dyfodol i gynrychioli ein Hynys wrth i ni edrych ymlaen at gynnal Gemau’r Ynysoedd am y tro cyntaf yn 2027.

“Efallai y gallwn freuddwydio am ennill hyd yn oed mwy o fedalau pan gynhelir y Gemau yma yn 2027.”