Mae’n “anhygoel” cael bod yn ôl yng Nghlwb Pêl-droed Caerdydd, yn ôl Aaron Ramsey.

Mae capten Cymru wedi dychwelyd i’r clwb lle dechreuodd ei yrfa, ar ôl cael ei ryddhau gan Nice yn Ffrainc, ac mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd gyda chlwb y brifddinas a’r clwb y mae’n ei gefnogi.

Dyma’i drydydd cyfnod gyda’r clwb, ac yntau wedi gwisgo’r crys glas am y tro cyntaf fis Ebrill 2007, gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i wneud hynny ac yntau ond yn 16 oed ar y pryd.

Ymddangosodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2008 cyn ymuno ag Arsenal, ac mae e bellach wedi ennill y gystadleuaeth dair gwaith yn ystod ei yrfa, ac fe sgoriodd e’r gôl fuddugol ddwywaith.

Dychwelodd i’r Adar Gleision ar fenthyg fis Chwefror 2011, a chwarae chwe gwaith yn ystod y mis.

Mae e bellach wedi chwarae dros 500 o gemau clwb yn ystod ei yrfa, gan gynnwys cyfnodau yn yr Eidal gyda Juventus, gan ennill Serie A a Coppa Italia, a chyrraedd rownd derfynol Cynghrair Europa ddwywaith.

Mae’r Cymro Cymraeg wedi ennill 83 o gapiau dros ei wlad, ac wedi sgorio ugain o goliau, ac roedd yn aelod allweddol o’r garfan yn yr Ewros yn 2016 a 2020, a Chwpan y Byd yn Qatar y gaeaf diwethaf.

“Yr amser perffaith” i ddychwelyd

“Mae’n teimlo’n anhygoel cael bod yn ôl yma o’r diwedd,” meddai Aaron Ramsey.

“Ro’n i wastad yn meddwl y byddwn i’n dod yn ôl ryw ddiwrnod, a nawr yw’r amser perffaith i wneud hynny.

“Mae cael bod yn ôl gyda fy nheulu ac o gwmpas wynebau cyfarwydd yn wych, felly dw i wrth fy modd yn cael bod yn ôl yma nawr.

“Dw i wedi gweld eisiau hynny dipyn dros y flwyddyn ddiwethaf, felly roedd hi’n bwysig i fi fod yn ôl o’u cwmpas nhw.

“Yn amlwg, dw i’n gefnogwr Caerdydd, ac o’u gwylio nhw dros y blynyddoedd ers i fi fod i ffwrdd, rydyn ni wedi cael ambell fan isel ond ambell uchafbwynt hefyd, bod yn yr Uwch Gynghrair a chynrychioli Caerdydd ar y llwyfan mawr.

“Mae hynny’n darged i fi – ceisio helpu fy nghyd-chwaraewyr a’r clwb hwn i ddychwelyd i’r brig.

“Dw i wedi dweud llawer o weithiau yn y gorffennol – mae arna i gymaint i Gaerdydd, i’r cefnogwyr, i bawb oedd wedi bod yn y clwb tra ro’n i yma yn fachgen ifanc yn dod trwodd.

“Cael cau’r cylch, cael bod yn rhan o’r tîm yma nawr, a gobeithio cyflawni’r nodau rydyn ni eu heisiau, does dim teimlad gwell na hynny.”

‘Diwrnod gwych’

Yn ôl Erol Bulut, rheolwr Caerdydd, roedd y diwrnod llofnododd Aaron Ramsey y cytundeb yn “ddiwrnod gwych”.

“Dechreuodd Aaron yma, a nawr mae e’n ôl i’n helpu ni i gyflawni ein nodau,” meddai.

“Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Tan Sri Vincent Tan am wneud popeth yn bosib.

“Hefyd, ein cadeirydd Mehmet Dalman, a Ken Choo; maen nhw wedi gweithio’n galed iawn dros y ddwy neu dair wythnos ddiwethaf.

“Mae Aaron wedi cael gyrfa wych, yn yr Uwch Gynghrair, wedyn yn yr Eidal a Ffrainc, a nawr yn ôl adref yng Nghaerdydd.

“Gobeithio y bydd ei flynyddoedd olaf gyda ni’n wych hefyd, a gobeithio y gallwn ni wireddu ein breuddwyion.”

Wrth i’w dad lofnodi cytundeb newydd, mae Sonny – mab hynaf Aaron Ramsey – wedi llofnodi llythyr o fwriad i ymuno â Chaerdydd yn y dyfodol.