Mae William Bishop, sy’n 18 oed ac yn dod o Lanrhaeadr, yn un o aelodau tîm Cymru fydd yn teithio i Gemau Ieuenctid y Gymanwlad ar ynysoedd Trinidad a Tobago fis nesaf.

Bydd yn cystadlu yn y naid hir i bara-athletwyr (F35-F38), cystadleuaeth hanesyddol oherwydd mai dyma’r tro cyntaf i chwaraeon anabledd gael eu cynnwys yn y Gemau Ieuenctid.

Y llynedd, roedd William Bishop hefyd yn rhan o dîm ifanc iawn o ddynion oedd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-fasged cadair olwyn 3×3, wrth geisio ennill eu lle yn Birmingham 2022.

Unwaith eto, mae’n falch iawn o gael ei ddewis fel un o bedwar para-athletwr o Gymru, ac yn gobeithio gwella ei record bersonol osododd e yn Cape Town eleni ym Mhencampwriaeth Para-athletau De Affrica.

Ar lefel Brydeinig, mae ar y brig yn y naid hir F35 i ddynion, ac yn drydydd yn y 100m, T35 i ddynion, ac mae’n diolch i Chwaraeon Anabledd Cymru ac Athletau Cymru am yr holl gefnogaeth.

Seren ddisglair y dyfodol

Mae William Bishop yn chwarae pêl-fasged cadair olwyn ers bron i saith mlynedd bellach, ac mae’n chwarae i’r tîm lleol, Rhyl Raptors, a’r North Wales Knights.

Cafodd ei ddewis yn aelod o’r tîm oedd yn cynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol Gemau’r Gymanwlad yn yr Alban y llynedd, wrth iddyn nhw lygadu eu lle yn Birmingham, ond roedden nhw’n aflwyddiannus yn y pen draw.

“Roeddwn i’n lwcus iawn i gael fy newis ar gyfer y tim yn rowndiau rhagbrofol Gemau’r Gymanwlad,” meddai wrth Lingo360 ar y pryd.

“Roeddwn i wedi bod yn hyfforddi ers dwy flynedd. Roedd Chwaraeon Anabledd Cymru wedi trefnu bob dim.

“Yn anffodus, wnaethon ni ddim llwyddo i fynd drwodd i’r Gemau y tro yma.

“Mae’r tîm yn ifanc, a doedden ni ddim mor gryf â fydden ni wedi hoffi bod.

“Ond roedd o’n brofiad da iawn.

“Erbyn 2026 fe fyddwn ni’n gryfach.”

‘Breuddwyd’

Mae gan William barlys yr ymennydd [cerebral palsy], ac mae’n defnyddio cadair olwyn arbennig i chwarae pêl-fasged.

Cododd ei arian ei hun er mwyn prynu’r gadair olwyn. `

“Dw i wrth fy modd yn chwarae pêl-fasged,” meddai. “Dwi’n hoffi natur gystadleuol y gêm.

“Mae’n gyffrous iawn a dych chi byth yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Mi fedrwch chi fod yn ennill o ddeg pwynt un funud, ac yna colli o bum pwynt y funud nesa.

“Mae llawer o waith tîm. Dw i wedi gwneud ffrindiau oes,” sydd hefyd yn rhedwr.

“Mae’n anodd i fi redeg yn bellach na 100m. Mae parlys yr ymennydd yn anabledd sy’n achosi poen. Mae’n mynd a dod.

“Weithiau, dw i’n gallu cerdded o gwmpas y tŷ yn iawn ond os dw i wedi gwneud gormod o ymarfer corff y diwrnod cynt dw i’n gorfod defnyddio’r gadair olwyn wedyn.

“Ond mae chwarae pêl-fasged yn dda iawn i fi o ran fy iechyd meddwl hefyd.

“Dw i’n llawer mwy hyderus nag oeddwn i.”

Ei freuddwyd ydy cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd.

“Mynd i’r Gemau Paralympaidd ydy’r nod,” meddai.

“Mae hynna’n golygu bod rhaid i rywun fy ngweld i a gweld fy mhotensial.

“Felly dw i eisiau cario mlaen i chwarae cymaint ag y galla i. Dw i ar y llwybr iawn.

“Dw i erioed wedi gadael i fy anabledd ddal fi yn ôl.

“Mae’n neis bod efo pobol sy’n gwthio eu hunain i’r eithaf. Rydan ni’n rhannu’r un uchelgais a breuddwydion.

“Dylai bod ag anabledd ddim stopio chi rhag gwneud y pethau yma.”