Mae’r Cymro cyntaf i gyrraedd copa mynydd Everest wedi derbyn Gradd Er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.

Cafodd Caradog ‘Crag’ Jones ei wobrwyo mewn seremoni ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 14).

Fe gyflawnodd e’r gamp o gyrraedd copa’r mynydd fis Mai 1995, ac yntau’n 33 oed ar y pryd.

Graddiodd gyda gradd BSc ym Mioleg y Môr ac Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor yn 1982.

Ar ôl y ddringfa fawr, daeth yn boblogaidd fel cyflwynydd rhaglenni teledu i ddringwyr ifanc ac wrth gefnogi grwpiau dringo a cherdded yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel ymgynghorydd pysgodfeydd, ond mae’n parhau i ddringo a theithio, ac mae hefyd yn mwynhau rasio beiciau mynydd i lawr allt.

‘Syndod ar y naw’

“Syndod ar y naw oedd clywed fy mod i’n cael gradd er anrhydedd ac mae wir yn wych bod yn ôl ym Mangor,” meddai Caradog Jones.

“Fe wnes i dreulio sawl blwyddyn hapus yma yn astudio ac yn mynydda, oherwydd roedd hynny’n gymaint rhan o fy mywyd bryd hynny ag ydy o rŵan.”

Fel rhan o’i anerchiad yn ystod y seremoni, dywedodd, “Wrth i chi symud ymlaen i fyd gwaith ar adeg go dyngedfennol, yn enwedig i’r rhai hynny ohonoch a fydd yn mynd i weithio ym meysydd gwyddorau’r môr, eigioneg a bioleg môr, bydd angen i chi fedru ymdopi â’r heriau sy’n ein hwynebu.

“Bydd llawer o’r heriau hynny’n ymwneud â’r pwysau diwylliannol a ddaw yn sgil yr ymfudo sy’n siŵr o ddigwydd wrth i bobol orfod ymdopi â newid hinsawdd.

“Mae’r profiad Cymreig yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr o lefydd fel Bangor ddeall y math o wrthdaro diwylliannol a all ddigwydd, a bydd hynny’n eich arfogi gyda’r empathi a’r ddealltwriaeth y bydd arnoch chi eu hangen i helpu’r byd i ymdopi â’r mathau hynny o newidiadau.”