Mae Ollie Cooper, Cymro ifanc Clwb Pêl-droed Abertawe, yn targedu tymor i’w gofio yng nghrys yr Elyrch yn 2023-24.

Ar ôl sawl perfformiad clodwiw y tymor diwethaf, cafodd y chwaraewr ymosodol 23 oed ei enwi’n eilydd wrth gefn gan y rheolwr Rob Page wrth i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd yn Qatar, eu hymddangosiad cyntaf yn y twrnament ers 1958.

Ac mae ganddo fe reswm arall i edrych ymlaen at y tymor newydd gyda’i glwb, wrth i Michael Duff gamu i swydd y rheolwr yn dilyn ymadawiad Russell Martin, sydd wedi’i benodi gan Southampton.

Dechreuodd Cooper gêm i’r Elyrch am y tro cyntaf y tymor diwethaf, gan sgorio’i gôl gyntaf hefyd, ac fe aeth yn ei flaen i chwarae 44 o gemau clwb a sgorio chwe gôl i gyd.

Ac mae’n gobeithio perfformio’n well fyth o dan arweiniad y rheolwr newydd.

“Mae’r wythnosau cyntaf wedi bod yn dda iawn – mae tipyn o ddisgwyliadau, ond mae safon yr ymarferion wedi bod yn dda,” meddai.

“Mae pawb wedi gwthio’u hunain i’r eithaf, a dyna rydych chi ei eisiau mewn gwersyll cyn dechrau’r tymor.

“O’r ochr yna, mae wedi bod yn dda iawn, ac mae wedi bod yn dda cael gweld pawb eto.

“Rydych chi bob amser yn meddwl eich bod chi’n edrych ymlaen at y toriad rhwng tymhorau, ond ar ôl ychydig ddiwrnodau rydych chi’n gweld ei eisiau!

“Rydych chi’n gweld eisiau’r tynnu coes a bod o amgylch pawb.

“Mae’n griw mor dda o fois fel bod tipyn o fwynhad o ddod i’r gwaith bob dydd.”

Dull o chwarae at ei ddant

Yn ôl Ollie Cooper, mae dull y rheolwr newydd Michael Duff o chwarae’r gêm at ei ddant.

“Dydyn ni ddim wedi gwneud llawer yn nhermau dadansoddi tactegol na dim eto, ond mae e fel pe bai’n foi da,” meddai.

“Mae e’n rywun fydd yn onest gyda chi, a dyna sydd ei angen arnoch chi, yn enwedig fel chwaraewr ifanc ar ei ffordd i fyny.

“Dw i jyst eisiau clywed y gwir, felly dw i wedi cyffroi i weld sut mae’n mynd, a dw i wedi cyffroi o gael chwarae iddo fe.

“Dw i eisiau parhau i chwarae.

“Dw i eisiau cael fy hun yn y tîm ac aros yno, a jyst cyfrannu rhagor o goliau a’u creu nhw.”

Clwb yn gyntaf, ac wedyn ei wlad

Arweiniodd perfformiadau Ollie Cooper at daith gyda charfan Cymru i Gwpan y Byd yn Qatar.

Ers hynny, cafodd ei ddewis yn y garfan ar gyfer y ddwy gêm ganlynol, gan chwarae am y tro cyntaf yn erbyn Latfia ym mis Mawrth.

Mae’n gobeithio parhau i berfformio i’w glwb er mwyn cael mwy o amser ar y cae yn y crys coch hefyd.

“Os galla i orffen y tymor hwn gyda mwy o goliau a chreu mwy nag y gwnes i y tymor diwethaf, bydda i’n hapus iawn,” meddai.

“Os galla i wneud hynny i gyd, efallai y bydd yn arwain at ddechrau dros Gymru, ond dw i jyst yn mynd i ganolbwyntio ar y clwb yn gyntaf a gobeithio y daw’r capiau dros Gymru ymhen amser.”

Mae’n canmol ei gyd-Alarch Joe Allen, ynghyd â Gareth Bale, am ei helpu i ymgartrefu yng ngharfan Cymru, ond fydd y naill na’r llall ddim yn y garfan y tro nesaf.

“Mae’r rhain yn chwaraewyr dw i wedi’u gwylio ers blynyddoedd,” meddai.

“Felly mae cael bois o’r fath i’ch helpu chi i gamu i fyny a theimlo’n rhan o amgylchfyd yn enfawr, ac mae hynny wedi fy helpu i’n fawr iawn.”