Bydd tîm criced Morgannwg yn falch o beidio gorfod defnyddio’r bêl Kookaburra o Awstralia am weddill y tymor, meddai’r capten David Lloyd ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Cipiodd y sir Gymreig chwe wiced yn unig mewn chwe awr ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Tarodd Rishi Patel 179, sgôr gorau ei yrfa a’i bedwerydd canred eleni, ar ddiwedd gêm gafodd ei thorri yn ei hanner bron oherwydd y glaw ar y ddau ddiwrnod cyntaf.

Tarodd Patel, sy’n 24 oed, 16 pedwar a phum chwech yn ystod ei fatiad wrth i’w dîm gipio pum pwynt batio gwerthfawr ac unarddeg o bwyntiau i gyd i gadw eu gobeithion o ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf yn fyw.

Manylion

Sgoriodd Morgannwg 403 am naw cyn cau eu batiad cyntaf, gyda Michael Neser yn taro 176, ei sgôr gorau erioed, ac yntau wedi adeiladu partneriaethau o 128 gyda James Harris a 123 gyda Mitchell Swepson.

Yn ystod y batiad, aeth Morgannwg o 93 am saith i’w sgôr terfynol.

Roedd yr ymwelwyr yn 28 heb golli wiced ar ddechrau’r diwrnod olaf.

Daw canred Patel rai misoedd ar ôl iddo fe sgorio 134 ar ei domen ei hun yn erbyn Morgannwg mewn gêm gyfartal arall.

Dechreuodd y diwrnod yn gryf i Forgannwg, wrth iddyn nhw waredu’r agorwr Sol Budinger am bump yn yr ail belawd, wrth i’r wicedwr Chris Cooke gipio daliad oddi ar fowlio Michael Neser.

Sgoriodd Patel a’r capten Lewis Hill yn gyson dros yr awr nesaf wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth gadarn, gyda Patel yn cyrraedd ei hanner canred gyda chyfres o ergydion i’r ffin oddi ar y troellwr coes Mitchell Swepson.

Daeth y glaw am gyfnod byr cyn cinio, gyda’r ymwelwyr yn 124 am un, a chyrhaeddodd Hill ei hanner canred oddi ar 97 o belenni gydag ergyd am bedwar.

Daeth canred Patel gydag ergyd i’r ffin oddi ar Swepson, ac roedd Patel a Hill wedi ychwanegu 168 erbyn i’w partneriaeth ddod i ben pan gafodd Hill ei ddal ar y ffin gan y Kiran Carlson oddi ar fownsar gan James Harris am 78.

Daeth partneriaethau o 56 rhwng Patel a Colin Ackerman a 65 rhwng Patel a Peter Handscomb cyn i Patel gael ei fowlio gan Zain ul Hassan ar ôl dros chwe awr wrth y llain.

Cipiodd y Saeson bedwerydd pwynt batio diolch i gyfres o ergydion i’r ffin gan Louis Kimber tua diwedd y dydd, cyn cael ei fowlio gan Swepson am 61.

Fe wnaethon nhw gau eu batiad yn fuan wedyn, gyda’r gêm yn gorffen gyda chwe phelawd yn weddill.

‘Ddim yn ddelfrydol’

“Dydi chwe awr yn y maes ddim yn ddelfrydol, ond dyna’r gêm weithiau,” meddai David Lloyd, fydd yn ymuno â Swydd Derby ar ddiwedd y tymor.

“Byddwn ni’n falch o weld diwedd arbrawf y bêl Kookaburra am y tymor hwn, oherwydd mae hi’n meddalu’n eithaf buan.

“Mae angen i ni ffeindio ffordd o ennill ambell gêm oherwydd dydi gemau cyfartal ddim mor fuddiol ag yr oedden nhw’r tymor dwytha’.

“Rydan ni am orfod bod yn eithaf ymosodol o hyn ymlaen yn y bloc yma er mwyn cael buddugoliaeth.

“Rydan ni’n agos ati, ond roedd y tywydd yn ein herbyn ni yr wythnos hon.

“Hwyrach fydd dychwelyd at y bêl Duke yn fuddiol i ni.

“Gall un fuddugoliaeth newid popeth, ac weithiau gall timau fynd ar rediad ar ddiwedd y tymor.

“Cyn belled â’n bod ni’n aros ynddi, byddwn ni mewn lle da.

“Mae Durham yn edrych fel pe baen nhw’n rhedeg i ffwrdd â hi, ond gall yr ail safle fod yn ben agored.”