Bydd Ieuan Evans, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, yn camu o’r neilltu ddiwedd yr wythnos hon gan adael y Bwrdd hefyd.
Bydd Richard Collier-Keywood yn ei olynu ddydd Llun (Gorffennaf 17).
Daw hyn ar ôl i gyn-gapten ac asgellwr Cymru arwain yr ymgyrch i foderneiddio rygbi yng Nghymru ers iddo gael ei benodi fis Tachwedd y llynedd.
Fel rhan o’r ymgyrch, bu’n galw am benodi cadeirydd annibynnol ac fe fu’n rhan o’r broses o benodi ei olynydd, gan alw ar glybiau Cymru i gefnogi’r cynllun.
Yn ogystal â Richard Collier-Keywood, mae Alison Thorne hefyd yn ymuno â’r Bwrdd fel rhan o “newid seismig” yn Undeb Rygbi Cymru.
Dywed Ieuan Evans ei fod yn “falch” o’r newidiadau, er bod hynny’n golygu bod yn rhaid iddo gamu o’r neilltu er mwyn i’r cadeirydd annibynnol gael dechrau yn y rôl.
Yn ôl Richard Collier-Keywood, bydd Ieuan Evans yn cael ei gofio “fel y dyn oedd wedi moderneiddio strwythur llywodraethu rygbi Cymru” ac fel “catalydd ar gyfer newid”.