Mae adroddiadau bod Aaron Ramsey, capten tîm pêl-droed Cymru, yn agos at ddychwelyd i Glwb Pêl-droed Caerdydd.

Dechreuodd y chwaraewr canol cae ei yrfa gyda’r Adar Gleision, ac mae adroddiadau ei fod yn cael profion meddygol cyn llofnodi cytundeb gyda’r clwb sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth.

Bydd e’n symud yn rhad ac am ddim ar ôl i’w gytundeb gyda’r clwb Llydewig Nice yng nghynghreiriau Ffrainc ddod i ben fis diwethaf.

Mae’n dweud ers tro ei fod yn awyddus i ddod adref i Gymru ar ôl sawl blwyddyn dramor.

Mae’r Cymro Cymraeg wedi ennill 82 o gapiau dros Gymru ers chwarae ar y lefel broffesiynol am y tro cyntaf gyda Chaerdydd yn 2007.

Yng nghrys Arsenal, enillodd e Gwpan FA Lloegr dair gwaith cyn mynd i Juventus yn yr Eidal yn 2019.

Er bod Caerdydd dan embargo trosglwyddiadau ar hyn o bryd, mae hawl ganddyn nhw i ddenu chwaraewyr yn rhad ac am ddim.