Mae Chris Cooke wedi’i ddewis gan y Tân Cymreig i chwarae yn y Can Pelen y tymor hwn.

Yn ymuno â wicedwr tîm criced Morgannwg mae Luke Wells, tra bod Emily Windsor ac Ella McCaughan wedi’u dewis i’r tîm merched sy’n cynrychioli prifddinas Cymru.

Bydd y ddau dîm yn dechrau eu hymgyrch ar Awst 2, wrth iddyn nhw groesawu Manchester Originals i Gaerdydd.

Fe wnaeth dros hanner miliwn o bobol fynd i gemau yn y Can Pelen yn ail flwyddyn y gystadleuaeth y llynedd, gan gynnwys 271,000 ar gyfer gemau’r merched, gan dorri tir newydd.

Mae tocynnau eleni’n £5 ar gyfer plant chwech i bymtheg oed ac yn rhad ac am ddim i blant dan bump oed, tra bod tocynnau’n £10 i oedolion.

Fe wyliodd 14.1m o bobol y gystadleuaeth ar y teledu y tymor diwethaf, a bydd y gemau’n cael eu darlledu gan y BBC a Sky Sports unwaith eto eleni.