Mae Lee Byrne, cyn-gefnwr tîm rygbi Cymru, yn un o berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Merthyr.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau mewn datganiad gan y clwb.

Enillodd e 46 o gapiau dros Gymru, ac un cap dros y Llewod.

Mae’n ymuno â’r pêl-droediwr rhyngwladol Joe Morrell a’r cricedwr Chris Cooke fel perchnogion newydd.

Mae’r clwb yn cynnig y cyfle i gefnogwyr brynu aelodaeth a pherchnogaeth am £233, sy’n cynnwys mynediad i bob gêm gartref.

Heb aelodaeth, mae’n costio £26 i fod yn berchennog, neu £259 am berchnogaeth am oes a £518 am berchnogaeth uwch.