Enillodd athletwraig ifanc o Fôn y fedal aur gyntaf i’r ynys yng Ngemau’r Ynysoedd eleni ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 11).

Daeth Ffion Mair Roberts o Lanfairpwll i’r brig yn y ras 400m i ferched, ac mae hi’n gobeithio “gwneud Ynys Môn yn browd” yn y rownd gynderfynol ar gyfer y 200m i ferched heno.

Teithiodd 120 o athletwyr o Fôn i Guernsey dros y penwythnos ar gyfer wythnos y “Gemau Olympaidd i ynysoedd”.

Yr wythnos hon, mae Guersney yn cynnal y gemau i 24 o ynysoedd o bob cwr o’r byd mewn 14 o gampau yn amrywio o bêl-fasged i denis bwrdd, a nofio.

Mae’r gemau yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ac mae disgwyl i tua 3,000 o athletwyr gystadlu eleni.

Gyda’r gemau yn dod i Fôn yn 2027, mae’n gyfle i’r ynys arddangos y ddawn yn y tîm.

‘Teimlad anhygoel’

Y ras 400m yw cryfder Ffion, meddai, er y bydd hi’n cystadlu mewn amryw o gystadlaethau dros yr wythnos.

“Mae o’n deimlad anhygoel,” meddai’r ferch 23 oed wrth golwg360 am ei chanlyniad yn y ras 400m.

“Dw i dal methu coelio bod o wedi digwydd, er bod o ddoe.

“Ond mae o’n deimlad da a dw i’n falch fy mod i wedi gallu cael medal i Ynys Môn.

“Hwn ydy ail dro i fi gystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd – wnes i fynd i Gibraltar yn 2019, a chefais i fedal efydd yn y 400m yn fan yna.

“Felly roedd o’n neis cael medal wahanol y tro yma.”

Daeth Ffion hefyd yn gyntaf yn ei rownd yn y 200m yn gynharach heddiw, a bydd hi’n mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd gynderfynol heno, gyda’r ffeinal yn cael ei chynnal yfory.

“Dw i’n gobeithio galla i wneud Ynys Môn yn browd heno.

“Fydd gen i ffeinal y 200m fory, ac wedyn mae gennym ni’r ddwy ras gyfnewid dydd Iau a dydd Gwener – y 4x100m a’r 4x400m.”

Ymarfer

Roedd y cyfnod o ymarfer tuag at y gemau gyda Chymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn yn un heriol, eglura Ffion.

“Dw i’n ymarfer chwe diwrnod o’r wythnos – dw i’n gwneud tri sesiwn ar y trac, ac wedyn tri sesiwn yn y gym.

“Yn y gaeaf, rydan ni wedi bod yn gwneud lot o sesiynau twyni tywod er mwyn cael mwy o gryfder a dygnwch mewn.

“A jest lot o waith ar gyflymder, a thrio ymarfer gymaint ag yr ydan ni’n gallu.

“Mae’r sesiynau yn tua dwy awr bob tro, felly mae gwneud hynny a’r cwrs hefyd yn dipyn o gamp, ond mae o’n bendant werth o ar ôl cael y fedal aur yn y diwedd.”

Astudio i fod yn ffisiotherapydd

Mae Ffion yn rhedeg o ddifri ers tro, ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn y campau tu allan i gystadlu hefyd.

“Dw i wedi bod yn rhedeg ers rhyw ddeng mlynedd rŵan,” meddai.

“Wnes i ddechrau rhedeg o ddifri ar ôl y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

“Ges i ysbrydoliaeth fawr o weld pawb yn cystadlu.

“Felly es i lawr i’r clwb lleol, y Menai, a dechrau cymryd rhan.

“Wnes i rili mwynhau a dw i jest wedi cario ymlaen ers hynny.”

Erbyn hyn mae Ffion yn fyfyrwraig Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn astudio gradd Meistr mewn Ffisiotherapi.

“Wnes i wneud fy nghwrs israddedig ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn astudio Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon, ac wedyn wnes i weld y cwrs Ffisiotherapi yn dod i fyny ym Mangor.

“Ro’n i’n gwybod yn syth mai dyna’n union o’n i eisiau gwneud.

“Mae o’n grêt bod o’n mynd efo’r ochr chwaraeon hefyd.”