Fe wnaeth dull Tîm Cymru Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar gynyddu gwelededd a phroffil Cymru ar lwyfan y byd yn ystod ac ar ôl y gystadleuaeth, yn ôl ymchwil newydd.
Yn ôl yr adroddiad, mae gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ddull Tîm Cymru wedi hwyluso partneriaethau newydd, atgyfnerthu rhwydweithiau a gwella cysylltiadau rhyngwladol ym meysydd yr economi, addysg a diwylliant.
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ganfod fod presenoldeb Cymru yng Nghwpan y Byd wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r wlad ymhlith cynulleidfaoedd o amgylch y byd.
Arweiniodd gwaith cysylltiadau cyhoeddus, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, at Gymru yn cael sylw yn y cyfryngau dros 540 o weithiau o amgylch y byd, gan greu tua wyth biliwn o gyfleoedd i weld y sylw yma.
Dros 2,200 o ddigwyddiadau
Cafodd dros £1.8 miliwn ei wario gan Lywodraeth Cymru ar 19 prosiect i gefnogi gweithgareddau ar gyfer Cwpan y Byd.
Yn ôl yr adroddiad fe wnaeth dros 320,000 o bobol fynychu neu gymryd rhan mewn dros 2,200 o ddigwyddiadau o dan y Gronfa Cefnogi Partneriaid a gweithgareddau cysylltiedig, o flaen cynulleidfa o dros bum miliwn.
Roedd gweithgareddau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn cynnwys:
- Y Gronfa Cefnogi Partneriaid a ariannodd 19 o sefydliadau diwylliant, chwaraeon ac addysg i gynnal gweithgareddau ar i ddathlu presenoldeb Cymru yng Nghwpan y Byd.
- Ymgyrch farchnata well a sicrhau bod presenoldeb yr ymgyrch yn gryf yng Nghymru. Roedd marchnadoedd targed yr ymgyrch yn cynnwys Cymru, yr Unol Daleithiau, rannau o Ewrop, y Deyrnas Unedig a Qatar.
- Llysgenhadon Cwpan y Byd Lleisiau Cymru – menter newydd sy’n cynnwys grŵp o bedwar unigolyn a oedd yn gweithio i godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac i helpu i greu canfyddiadau cadarnhaol hirdymor ac adeiladu cysylltiadau cryf â phartneriaid allweddol.
- Digwyddiadau rhyngwladol wedi’u trefnu gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, yn benodol yn Qatar ac Unol Daleithiau.
‘Llywodraeth Cymru wedi adeiladu model effeithiol’
Dywedodd Laura McAllister, oedd yn llysgennad gyda Lleisiau Cymru yn ystod yr ymgyrch yn Qatar: “Roedd Cwpan y Byd yn cynnig cyfle digynsail inni godi proffil Cymru, wrth ar yr un pryd gadw at ein gwerthoedd amrywiaeth, cynwysoldeb a pharch at hawliau dynol, a hyrwyddo’r hawliau hynny.
“Rwyf wrth fy modd yn gweld ein llwyddiannau yng Nghwpan y Byd, a byddwn ni’n adeiladu ar y gwaddol hwn a sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw ar gyfer Cymru, pêl-droed a’r tu hwnt.”
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Sefydlodd Llywodraeth Cymru amrediad uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau, i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw a roddwyd gan bresenoldeb tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.
“Ein nod oedd hyrwyddo Cymru a rhannu ein gwerthoedd cynwysoldeb ac amrywiaeth, sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y twrnamaint a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol.
“Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn dangos ein bod ni wedi rhagori ar ein nodau a’n bod ni’n agos iawn at sicrhau gwaddol parhaol.
“Mae ein Cronfa Cefnogi Partneriaid gwerth £1.8 miliwn wedi dangos talent Cymru i’r byd, wedi hwyluso partneriaid newydd ac wedi atgyfnerthu rhwydweithiau ym meysydd busnes, gwyddoniaeth a’r celfyddydau.
“Diolch i’n dull Tîm Cymru, gan ddod ag amrediad eang o bartneriaid ynghyd, mae Llywodraeth Cymru wedi adeiladu model effeithiol y gellir ei ailddefnyddio i gefnogi strategaethau yn y dyfodol, fel y posibilrwydd o gynnal Cystadleuaeth Bêl-droed Ewropeaidd FIFA ar y cyd yn 2028.”