Mae’r Awstraliad Michael Neser yn dychwelyd i garfan griced Morgannwg, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerlŷr i Gaerdydd ar gyfer eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth, sy’n dechrau heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 10).

Cafodd ei alw i’r garfan genedlaethol ar gyfer dwy gêm gyntaf Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr, tra bod Marnus Labuschagne, tramorwr arall Morgannwg, yn parhau’n aelod o’r garfan am weddill y gyfres.

Mae e wedi cipio 19 wiced ar gyfartaledd o 25.63 y tymnor hwn, gan gynnwys ei ffigurau gorau erioed, saith am 32.

Un arall sy’n dychwelyd yw’r capten David Lloyd, fydd yn gadael y sir ar ddiwedd y tymor er mwyn ymuno â Swydd Derby.

Mae Morgannwg yn ddi-guro yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, a daethon nhw o fewn un wiced i’r fuddugoliaeth dros Sussex yn eu gêm ddiwethaf, sy’n eu gadael nhw yn y pumed safle, tra bod yr ymwelwyr yn ail yn y tabl yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Durham.

Un sy’n dychwelyd i’r Saeson yw’r chwaraewr amryddawn ifanc Rehan Ahmed, gafodd ei alw i garfan Lloegr.

Daw’r ornest ar ddiwedd wythnos pan ddaeth cyhoeddiad bod Paul Nixon, prif hyfforddwr y Saeson, yn gadael ei swydd, gydag Alfonso Thomas a James Taylor yn gyfrifol am y tîm am weddill y tymor.

Mae sawl carreg filltir ar y gorwel, gyda Kiran Carlson eisoes wedi sgorio 754 o rediadau mewn gemau dosbarth cyntaf y tymor hwn – dim ond Leus du Plooy (Swydd Derby) sydd wedi sgorio mwy (798) o rediadau yn y Bencampwriaeth eleni.

928 yw’r nifer fwyaf o rediadau mae Carlson wedi’u sgorio mewn tymor, a hynny yn 2021, wrth iddo lygadu 1,000 am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Mae’r ornest yn debygol o gael ei heffeithio gan y glaw yr wythnos hon.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg yn ddi-guro mewn tair gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd.

Roedden nhw’n fuddugol o chwe wiced y tymor diwethaf, ar ôl iddyn nhw sgorio 437 yn eu batiad cyntaf diolch i hanner canred yr un gan Carlson (91), Sam Northeast (84) a Chris Cooke (52).

Buddugoliaeth o 291 o rediadau gawson nhw yn 2019, ar ôl i Kraigg Brathwaite daro 103 heb fod allan, gyda’r troellwr Andrew Salter yn cipio tair wiced am chwe rhediad.

Sgoriodd Carlson 83, ac roedd hanner canred yr un i Timm van der Gugten a Craig Meschede yn 2018, gyda Michael Hogan yn cipio pedair wiced am 30 wrth i Forgannwg ennill o 132 o rediadau, gyda 94 gan Dieter Klein yn methu achub y Saeson.

Roedd y Saeson yn fuddugol o ddeg wiced yn 2016, wrth iddyn nhw ennill yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2001.

Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, A Salter, M Swepson, Zain ul Hassan, M Neser, J McIlroy, C Cooke, D Lloyd (capten), T van der Gugten

Carfan Swydd Gaerlŷr: C Ackermann, R Ahmed, E Barnes, S Budinger, P Handscomb, L Hill (capten), L Kimber, W Mulder, C Parkinson, R Patel, M Salisbury, T Scriven, C Wright

Sgorfwrdd