Mae dau wyneb newydd yng ngharfan griced Morgannwg wrth iddyn nhw deithio i herio Swydd Derby yn y Bencampwriaeth (dydd Mawrth, Gorffennaf 25).
Ar ôl dwy gêm sydd wedi’u heffeithio gan y tywydd, mae Morgannwg yn bumed yn yr Ail Adran, tra bod eu gwrthwynebwyr yn wythfed ac yn dal i geisio’u buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.
Dyma’r tro cyntaf i Rhodri Lewis, troellwr llaw chwith 25 oed, a Ben Morris, bowliwr cyflym 19 oed, gael eu cynnwys yn y garfan ar gyfer gêm pedwar diwrnod.
Ond mae’r ddau yn wynebau cyfarwydd yn yr ail dîm, gyda Lewis wedi cipio 13 o wicedi ar gyfartaledd o 21.38, ac wedi sgorio 118 o rediadau ar gyfartaledd o 29.50 ac yn aelod o’r tîm gyrhaeddodd Ddiwrnod y Ffeinals yn y gystadleuaeth ugain pelawd eleni.
Mae Ben Morris newydd lofnodi ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r sir, ac wedi cipio saith wiced yn y Bencampwriaeth i’r ail dîm.
Mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r pumed safle ar ôl gêm gyfartal rwystredig yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ond chwe phwynt yn unig sydd rhyngddyn nhw a’r ail safle hollbwysig ar gyfer dyrchafiad.
‘Dewr’
Mae’r capten David Lloyd, fydd yn ymuno â Swydd Derby ar gyfer y tymor nesaf, yn galw ar Forganwg i fod yn “ddewr” yn yr ornest hon.
“Rydan ni mewn sefyllfa rŵan lle mae angen i ni drio ennill y gemau hynny a bod yn ddewr wrth symud ymlaen,” meddai.
“Rydan ni wedi cau’r bwlch ar y ddau uchaf, ac mae angen i ni adeiladu momentwm rŵan, a throi’r gemau cyfartal hynny’n fuddugoliaethau er mwyn sicrhau mai ni sydd yn yr ail safle ar ddiwedd y tymor.”
Gemau’r gorffennol
Y tymor diwethaf, bu’n rhaid i Forgannwg gwrso nod o 331 mewn 55 pelawd ar y diwrnod olaf yn Derby.
Er i Marnus Labuschagne a Sam Northeast adeiladu partneriaeth swmpus, daeth yr ornest i ben yn gyfartal.
Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 2019, pan wnaethon nhw gwrso 246 mewn 79 pelawd, gydag Andrew Salter a Tom Cullen yn arwain y ffordd gyda’r bat.
Cipiodd Tony Palladino ddeg wiced i’r Saeson yn 2018, wrth iddyn nhw ennill yr ornest o 169 o rediadau ar lain oedd yn helpu’r bowlwyr.
Cafodd y tywydd gryn effaith ar y gemau yn 2016 a 2017, wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal.
Carfan Swydd Derby: Haider Ali, L Reece, H Came, B Guest, L du Plooy (capten), T Wood, M Wagstaff, A Dal, A Thomson, Z Chappell, N Potts, G Scrimshaw, S Conners
Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, A Gorvin, S Northeast, B Morris, M Swepson, Zain ul Hassan, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten), R Lewis