Mae cannoedd o bobol wedi llofnodi hen ddeiseb dros y dyddiau diwethaf yn galw am ddileu’r tair pluen oddi ar grysau rygbi Cymru.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Trystan Gruffydd yn 2019, ac mae wedi cael adfywiad yn sgil yr honiadau o rywiaeth, gwreig-gasineb, hiliaeth, homoffobia ac iaith amhriodol staff Undeb Rygbi Cymru.

Wrth bwysleisio mai mynd i’r afael â’r honiadau hynny yw’r flaenoriaeth, dywed y ddeiseb mai dyma’r amser i fynd ati i ailfrandio, wrth i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi polisi newydd yr wythnos hon i Gymreigio’r sefydliad.

Mae’r ddeiseb yn galw am “symbol mwy gwleidyddol niwtral sydd wir yn cynrychioli pawb yng Nghymru, megis y Ddraig Goch (neu symbol Cymreig arall megis cennin), gan ddweud nad oes “unrhyw gysylltiad o gwbl” rhwng y tair pluen a thywysogion olaf Cymru, Llywelyn ac Owain Glyndŵr.

Y Sais Edward gyflwynodd y tair pluen i Gymru, ac fe ddaeth yn symbol o rym teulu brenhinol Lloegr dros Gymru dros y canrifoedd.

Mae’r geiriau ‘Ich Dien’ sy’n cael eu cysylltu â’r tair pluen yn tyngu llw i Goron Lloegr, gan ddweud y “Byddaf yn Gwasanaethu”.

Ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, wrth iddyn nhw lansio polisi newydd ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

Daw hyn wrth iddyn nhw dderbyn y Cynnig Cymraeg.

Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o fentrau newydd cyffrous i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad, gyda’r polisi gafodd ei lansio gan y Prif Weithredwr dros dro Nigel Walker yn ymrwymo i gynnydd sylweddol yn eu darpariaeth iaith Gymraeg.

Bydd prif gyhoeddiadau’r Undeb, gan gynnwys y prif ddatganiadau i’r wasg, adroddiadau gemau rhyngwladol a straeon newyddion mawr eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a bydd cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn fewnol hefyd yn cael ei argymell a’i annog.

Mae ymrwymiad cadarn i arwyddion newydd a pherthnasol o amgylch Stadiwm Principality fod yn ddwyieithog a bydd cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill Undeb Rygbi Cymru, gan gynnwys rhaglenni gemau rhyngwladol ac amrywiaeth o ddarpariaeth ar-lein, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

“Mae ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i’n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl,” meddai Nigel Walker.

“Byddwn yn gwella ein darpariaeth a’n gwasanaethau ac yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cynnig i ni a’n cefnogwyr.”

 

Logo Undeb Rygbi Cymru

Undeb Rygbi Cymru’n ymrwymo i’r defnydd o’r Gymraeg

Mae’r Undeb wedi derbyn statws Cynnig Cymraeg wrth lansio’r polisi yn Llanelwedd