Mae Neuadd y Ddinas Belfast yn troi’n wyrdd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 31) i ddathlu 130 o flynyddoedd ers sefydlu’r mudiad iaith Conradh na Gaeilge.

Cafodd y mudiad ei sefydlu ar Orffennaf 31, 1893.

Bydd derbyniad arbennig yn y neuadd heno, gyda’r darpar Brif Weinidog Michelle O’Neill ymhlith y gwesteion, a bydd hi hefyd yn traddodi prif araith y noson.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio mae Piaras Ó Lorcáin, Bláithín Mhic Cana a Lauren Ní Néill, a bydd deunydd o’r archifau’n cael ei ddangos drwy gydol y digwyddiad.

Bydd yr actor lleol Conor Torbóid yn rhoi perfformiad byr yn seiliedig ar hanes y mudiad.

‘Gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad’

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael y cyfle i nodi’r achlysur arbennig hwn yn Neuadd y Ddinas yn Belfast,” meddai Cuan Ó Seireadáin, curadur a hanesydd Conradh na Gaeilge.

“Cafodd y mudiad adfer iaith Wyddeleg trawsgymunedol amryfath hwn ei sefydlu ar Stryd O’Connell yn Nulyn ar y diwrnod hwn 130 mlynedd yn ôl, ac mae wedi gadael marc anfesuradwy ar y gymdeithas yma fel yr ydym yn ei hadnabod.

“Mae archifau’r mudiad, ynghyd ag ymchwil hirdymor, yn dangos yr effaith bendant gafodd Conradh na Gaeilge, y Gynghrair Aeleg, ei haelodau a’i gweithwyr ar hanes Gwyddelig a datblygiad yr iaith, oedd yn wynebu bygythiad i’w bodolaeth ar adeg sefydlu’r mudiad.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein holl westeion sy’n mynychu’r dathliad hwn yn cael gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r mudiad ysbrydoledig hwn, yn ogystal â mewnwelediad gwerthfawr i’r sefydliad a’i waith heddiw.”

‘Cyfle unigryw i gamu’n ôl’

“Mae’r garreg filltir hon yn cynnig y cyfle unigryw i ni gamu’n ôl a bwrw golwg ar hanes Conradh na Gaeilge, i asesu a chofio popeth rydym wedi’i gyflawni, ynghyd â’r heriau rydym wedi’u hwynebu, a’r rheiny rydym eto i’w goresgyn,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.

“Rydyn ni eisiau defnyddio’r achlysur hwn i ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni ac sydd wedi sefyll gyda ni dros y degawdau, yn enwedig ein canghennau a’n haelodau, ein staff ac aelodau ein bwrdd, a’r gymuned gyfan am gefnogi ein hymdrechion.

“Rydyn ni hefyd yn cofio’r ymgyrchwyr gwych hynny, aelodau ac arloeswyr sydd wedi mynd cyn ni, a nifer ohonyn nhw wedi cadw’r fflam ynghyn yn eu cymunedau lleol, a nifer o rai eraill arweiniodd y mudiad ac a helpodd i’n hysbrydoli ni a’n gwaith, yn enwedig y rheiny sydd wedi mynd dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ar ddiwrnodau fel hyn, mae gennym ni gyfle hefyd i edrych ymlaen, i asesu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac i gamu allan gyda phwrpas o’r newydd o ran ein gweledigaeth i hybu a gwarchod yr iaith Wyddeleg ar draws yr ynys hon.”