Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi rhoi eu sêl bendith i agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn 2024.

Fel rhan o’r broses gymeradwyo ar gyfer achredu ysgol feddygol annibynnol yn y gogledd, daeth panel arbenigol i ymweld â champws Prifysgol Bangor yn gynharach y mis hwn a chadarnhau bod yr Ysgol yn barod i recriwtio myfyrwyr.

Mae Prifysgol Bangor bellach wrthi’n recriwtio myfyrwyr ar gyfer mis Medi 2024, ac yn dweud bod hyn yn “gam arwyddocaol yn nhaith y brifysgol tuag at gael achrediad ffurfiol ar gyfer Ysgol Feddygol newydd gogledd Cymru”.

Mae’r brifysgol wedi bod yn darparu rhaglen Meddygaeth C21 Prifysgol Caerdydd yng ngogledd Cymru ers 2019, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a meddygon teulu o bob rhan o’r rhanbarth, a bu i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr raddio eleni.

Bydd y rhaglen newydd yn parhau i fod yn gydnaws â chwricwlwm meddygol rhaglen C21 Prifysgol Caerdydd, yn dilyn cefnogaeth gref gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer proses gymeradwyo a monitro’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Mae sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adlewyrchu ymroddiad Prifysgol Bangor i ddarparu cyfleoedd addysgol sydd â chysylltiadau dwfn â’r gymuned leol, mewn partneriaeth a’i phartneriaid iechyd meddwl ledled rhanbarth gogledd Cymru.

Mae gan Ysgol Feddygol Gogledd Cymru gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Meddygon Teulu lleol, a’i nod yw mynd i’r afael ag anghenion staffio gofal iechyd y rhanbarth trwy hyfforddi meddygon yn gyfangwbl oddi fewn i’r rhanbarth.

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru gyllid i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, gyda nifer cychwynnol o 80 o ymgeiswyr, gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer yn flynyddol nes cyrraedd uchafswm o 140 erbyn 2029.

Bydd y twf cynyddol hwn yn nifer y myfyrwyr yn helpu i sicrhau addysg a phrofiad myfyrwyr o ansawdd uchel trwy brosesau monitro ansawdd y brifysgol a’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

‘Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol i’r sefydliad hwn’

Yn ôl yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, mae sefydlu Ysgol Feddygol newydd “yn un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol i’r sefydliad hwn, ac i iechyd a lles gogledd Cymru ers sefydlu’r brifysgol bron i 140 mlynedd yn ôl”.

“Trwy fynd i’r afael â’r ffaith na chafwyd erioed ysgol feddygol yn y rhanbarth, mae’r datblygiad hwn yn cryfhau ein darpariaeth gofal iechyd yn lleol trwy creu cyflenwad o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â dealltwriaeth o anghenion lleol tra hefyd yn cynyddu nifer y rhai sy’n gallu ymarfer yn y Gymraeg,” meddai.

“Bydd yr Ysgol Feddygol hefyd yn rhoi hwb enfawr i’r economi leol ac yn helpu i sicrhau bod pobol gogledd Cymru yn byw bywydau hwy, iachach a hapusach”.

‘Newid sylweddol’

“Mae hyn yn newid sylweddol i Brifysgol Bangor ac i ogledd Cymru,” meddai Marian Wyn Jones, cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor.

“Mae tystiolaeth gref bod graddedigion meddygol yn dewis gweithio’n agos at lle buont yn hyfforddi.

“Bydd sefydlu’r Ysgol Feddygol yn helpu i droi’r gostyngiad yn nifer y meddygon teulu ar ei ben a mynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu ar draws y proffesiynau meddygol yn ein rhanbarth.”

Yn ôl yr Athro Mike Larvin, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor, mae ymweliad y Cyngor Meddygol Cyffredinol “yn garreg filltir arwyddocaol” yn nhaith y brifysgol “tuag at sefydlu ysgol feddygol gwbl annibynnol” yn y gogledd.

“Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a meddygon teulu ar draws gogledd Cymru yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth heb ei ail i’n myfyrwyr meddygol yn y dyfodol, gan eu gwneud nid yn unig yn weithwyr meddygol proffesiynol tosturiol a chymwys, ond hefyd yn arweinwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol y dyfodol,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth ddi-syfl i’n helpu i gyrraedd y garreg filltir hon, ac am y gefnogaeth barhaus y maent wedi cytuno’n garedig i’w darparu i raglen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn y dyfodol.”

Ar ddydd Mawrth, Awst 8 am 12:30yp, bydd sesiwn am Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael am eu rhaglen Feddygaeth newydd, gan gynnwys arddangosiadau byw a chyfle i gwrdd â staff a gofyn cwestiynau.