Mae 74% o raddedigion Cymru’n dweud iddyn nhw gael hyd i’w swydd ddelfrydol o fewn blwyddyn ar ôl gadael y brifysgol.

Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw, mae 56% yn dweud bod mynd i’r brifysgol wedi gwella sicrwydd yn eu swyddi.

Dywed 75% fod y cymorth gawson nhw yn y brifysgol wedi eu helpu i ganfod gwaith.

Datgelodd 98% o arweinwyr busnes Cymru gafodd eu holi fod graddedigion yn cyrraedd swyddi rheoli yn gyflymach, o ganlyniad i fynd i’r brifysgol.

Mae 73% o arweinwyr busnes Cymru hefyd yn credu bod mynd i’r brifysgol yn galluogi graddedigion i feithrin sgiliau trosglwyddadwy hollbwysig, gan nodi bod prifysgolion yn faes hyfforddi hanfodol ar gyfer diwydiant Cymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig; gan arfogi’r genhedlaeth nesaf â’r sgiliau i adfer twf busnes yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r ymchwil, sy’n seiliedig ar safbwyntiau 3,500 o raddedigion y Deyrnas Unedig a 3,500 o arweinwyr busnes (perchnogion a sylfaenwyr busnesau, aelodau bwrdd, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr) ledled y Deyrnas Unedig, hefyd yn datgelu bod 73% o raddedigion yng Nghymru’n dweud bod mynd i’r brifysgol wedi eu galluogi i feithrin sgiliau sydd wedi bod yn werthfawr yn broffesiynol.

Ac, yn achos 73% o raddedigion a 77% o arweinwyr busnes yng Nghymru, roedd mynd i’r brifysgol wedi helpu i feithrin eu hunanhyder.

Mae 60% o raddedigion a 73% o’r arweinwyr busnes yng Nghymru hefyd yn credu bod mynd i’r brifysgol yn galluogi graddedigion i feithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol sy’n eu helpu yn eu gyrfa; gan nodi bod prifysgolion y Deyrnas Unedig yn faes hyfforddi hanfodol ar gyfer diwydiant.

Mae’r canfyddiadau hyn yn cael eu hategu gan y mewnwelediad bod 29% o raddedigion yng Nghymru wedi dod o hyd i’w swyddi cyntaf drwy gysylltiad uniongyrchol â’u prifysgol neu gwrs gradd, a bod 77% o arweinwyr busnes yng Nghymru’n dweud bod mynd i’r brifysgol wedi agor drysau i gwmnïau perthnasol iddyn nhw.

Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu cryfder y cysylltiadau sy’n bodoli rhwng prifysgolion a’r sector preifat, a’u rôl ganolog wrth fynd i’r afael â bylchau sgiliau ar gyfer diwydiant y Deyrnas Unedig.

Effeithiau ehangach mynd i’r brifysgol

Mae’r ymchwil gan sefydliad Prifysgolion y Deyrnas Unedig hefyd yn amlinellu effeithiau ehangach mynd i’r brifysgol ar ganfod cyflogaeth yng Nghymru.

Dywed 74% o raddedigion yng Nghymru iddyn nhw ddod o hyd i’w swydd/rôl mewn llai na blwyddyn.

Yn ogystal â hynny, dywed 98% o arweinwyr busnes Cymru gafodd eu holi fod graddedigion yn cyrraedd swyddi rheoli yn gyflymach o ganlyniad i fynd i’r brifysgol.

Yn ôl yr ymchwil, mae 62% o arweinwyr busnes yng Nghymru o’r farn bod graddedigion fel arfer yn symud ymlaen yn gyflymach drwy rengoedd eu busnes; canfyddiad y gellid ei gysylltu â’r mewnwelediad fod 71% hefyd yn credu bod mynd i’r brifysgol yn rhoi gwybodaeth dda i raddedigion am y sector a diwydiant.

Ar ben hynny, lle mae graddedigion a’r rhai nad ydyn nhw’n raddedigion yn gallu cyflawni’r un rôl yn eu sefydliad, byddai 88% o arweinwyr busnes yng Nghymru’n disgwyl gweld gweithwyr graddedig yn ennill mwy na’r rhai sydd heb radd ar ôl tair blynedd.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd elwa’n ariannol o ennill gradd.

Ar gyfartaledd, mae arweinwyr busnes yng Nghymru’n disgwyl i weithwyr nad oedden nhw’n meddu ar radd yn flaenorol sy’n ennill gradd sy’n berthnasol i’w rôl weld cynnydd o 21% yn eu cyflog.

‘Rôl hanfodol yn ein cymdeithas’

“Mae prifysgolion yn chwarae rôl hanfodol yn ein cymdeithas, gan bweru’r economi a hyfforddi gweithlu’r dyfodol,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, cadeirydd Prifysgolion Cymru.

“Mae’r ymchwil newydd hwn yn dangos yn glir beth yw gwerth addysg prifysgol, i’r graddedigion ac i’r rhai sy’n eu cyflogi ac yn elwa o’u sgiliau.

“O sicrwydd swyddi a chyflogau, i uchelgeisiau gyrfa a symudedd cymdeithasol, mae’r manteision a ddatgelir gan yr ymchwil hyn yn niferus.

“Nid yn unig mae ein prifysgolion yn paratoi graddedigion ar gyfer byd gwaith, ond maen nhw hefyd yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol, trosglwyddadwy, a fydd o gymorth iddynt gydol eu gyrfa.

“Mae’n glir fod ein prifysgolion yn chwarae rôl bwerus wrth helpu graddedigion i wireddu eu huchelgeisiau o ran gyrfa, yn ogystal â gwneud cyfraniad gwerthfawr a all helpu economi’r Deyrnas Unedig i dyfu unwaith eto a pharhau i bweru ein gwasanaethau cyhoeddus.”