Bydd dwy ysgol ar Ynys Môn yn cau dros dro wedi i goncrit diffygiol gael ei ganfod ynddyn nhw, meddai Cyngor Môn.
Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi yw’r ysgolion dan sylw.
Roedd disgwyl i ddisgyblion ddychwelyd i’r ddwy ysgol fory (Medi 5), ond byddan nhw’n parhau ar gau er mwyn cynnal adolygiad diogelwch pellach o’r concrit, sy’n cael ei alw’n RAAC.
Gall y math hwn o goncrit ddymchwel heb rybudd, ac mae pob un o awdurdodau lleol Cymru’n asesu ei ddefnydd mewn ysgolion, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi adnabod dros 150 o ysgolion, colegau a meithrinfeydd yn Lloegr sy’n cynnwys y defnydd.
‘Mater cenedlaethol’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod diogelwch staff a disgyblion yn flaenoriaeth.
“Mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn barhaus ac yn fater cenedlaethol,” meddai.
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn siomedig i’r holl staff a disgyblion.
“Rydym wrthi’n rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi er mwyn lleihau’r aflonyddwch i addysg y plant.
“Rydym yn cydweithio’n agos â Phenaethiaid a staff yn yr ysgolion sydd wedi eu heffeithio.
“Bydd yr ysgolion yn darparu diweddariadau pellach i rieni neu warcheidwaid pobl ifanc.
“Eto, ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch ein holl staff a’n pobl ifanc.”
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, eu bod nhw wedi gweithio ar frys gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau y gall disgyblion a staff fynd yn ôl i’r ysgol yn ddiogel ers dod yn ymwybodol o’r datblygiadau gyda diogelwch y concrit.
“Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch disgyblion a staff,” meddai.
“Rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn gyda’n gilydd i gadw staff a disgyblion yn ddiogel.
“Mae Cyngor Ynys Môn a’r ysgolion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r effaith ar ddisgyblion.
“Os bydd unrhyw un o’r camau hyn yn effeithio arnoch, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan eich ysgol.”
‘Lleihau’r risg’
Wrth ymateb i’r newydd na fydd yr ysgolion yn ailagor fory, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, ei bod hi’n llwyr gefnogi’r penderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan Gyngor yr ynys.
“Fodd bynnag, tra bod gwaith ar y gweill i weld beth yw’r sefyllfa dros Gymru, mae’n peri pryder nad ydym yn gwybod beth yw graddfa’r broblem ar hyd y wlad ar y funud,” meddai Heledd Fychan.
“Drwy beidio â rhannu’r wybodaeth tan yn hwyr neithiwr gyda Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig o bosib wedi peryglu diogelwch plant, pobol ifanc a staff mewn ysgolion a cholegau.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb yn gadarn nawr er mwyn sicrhau bod y risg yn cael ei lleihau.”
‘Llaesu dwylo’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “laesu dwylo” ar y mater.
“Ni all gweinidogion Llafur yn y Senedd drosglwyddo’r baich,” meddai arweinydd y blaid, Andrew RT Davies.
“Nhw sy’n gyfrifol am ysgolion yng Nghymru, felly eu cyfrifoldeb nhw yw diogelwch adeiladau.
“Yn wahanol i Loegr, lle cymerwyd camau pendant gan y llywodraeth Geidwadol, mae Llafur wedi llaesu dwylo yng Nghymru a rhoi diogelwch disgyblion yn y fantol.”
Cafodd cleifion eu symud o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn ddiweddar ar ôl i goncrit RAAC gael ei ganfod yno, ac mae peth wedi cael ei ganfod yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth hefyd.
Yn sgil hynny, cafodd arolwg ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru i weld a oedd unrhyw adeiladau eraill wedi’u hadeiladu gyda’r deunydd.
Roedd y concrit yn cael ei ddefnyddio’n aml rhwng y 1960au a’r 1990au, ond bellach mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn rhybuddio ei fod wedi pasio ei gyfnod diogel a’i fod yn dueddol o ddymchwel heb rybudd.