Mae cynghorydd Ceidwadol wnaeth gyhuddo cynghorydd Llafur o “fisogynistiaeth” wedi ymddiheuro gan ddweud ei fod yn “cyfaddef” ei fod yn anghywir.
Fe wnaeth sylwadau Richard John ddechrau ffrae yn ystod cyfarfod arbennig yng Nghyngor Sir Fynwy pan awgrymodd bod yr aelod cabinet Llafur Martyn Groucutt wedi cwestiynu crebwyll cynghorydd arall gan ei bod hi’n ddynes.
Roedd y cyfarfod yn archwilio penderfyniad y cabinet i roi £400,000 gafodd ei godi gan ddatblygiad tai yn ward Porth Sgiwed, sy’n cael ei gynrychioli gan y Ceidwadwr Lisa Dymock, i ysgol yn ward Lafur Cil-y-coed.
Dywedodd pwyllgor trawsbleidiol y dylai’r cyngor llawn drafod y mater ar ôl i’r Cynghorydd Dymock, a Cheidwadwyr eraill, gwyno y dylai’r arian gael ei roi i ysgol yr Archesgob Rowan Williams yn ei ward hi.
Ond dywedodd y Cynghorydd Groucutt bod yn “angen brys” am lefydd ychwanegol i blant mewn ysgolion yng Nghil-y-coed.
Dywedodd hefyd mai cynllun y cabinet oedd gwario’r £439,286 sydd ar gael yn barod ar Ysgol Gynradd Parc y Castell yn y dref, er mwyn adnewyddu dau ddosbarth ac ychwanegu lifft, tra y byddai Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ym Mhorth Sgiwed yn derbyn £1.1m dros y blynyddoedd nesaf yn sgil dau ddatblygiad tai arall.
‘Creu trwbl’
Pan amddiffynnodd benderfyniad y cyngor cyn i bwyllgor craffu’r cyngor gyfarfod ym mis Awst, dywedodd y Cynghorydd Groucutt: “Dw i’n meddwl bod hyn yn codi drwy gamddealltwriaeth gan yr aelod lleol, y Cynghorydd Dymock, a bod hynny wedi cael ei ecsbloetio gan arweinydd yr wrthblaid (y Cynghorydd John).”
Dywedodd yr aelod cabinet, sy’n cynrychioli ward yn y Fenni: “Dw i wir yn meddwl bod arweinydd y gwrthwynebiad wedi creu trwbl yn fan hyn.”
Yn y cyfarfod, dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol bod y cyfarfod wedi cael ei drefnu gan fod y Cynghorydd Groucutt wedi methu perswadio’r pwyllgor bod y cabinet wedi dod i’r penderfyniad cywir.
Ychwanegodd fod y Cynghorydd Groucutt wedi “troi” ar y rhai oedd yn ei ddal yn atebol.
Meddai’r Cynghorydd John wrth y cyngor llawn: “Fe wnaeth fy nghyhuddo o greu trwbl ond roedd ei agwedd at y Cynghorydd Dymock, dw i’n teimlo, reit nawddoglyd.
“Dywedodd nad oedd y Cynghorydd Dymock yn deall yr adroddiad.
“Pam na fyddai hi’n ei ddeall?
“Ai oherwydd ei bod hi’n ddynes, ai oherwydd ei bod hi’n ddynes ifanc mewn gwleidyddiaeth?
“Ddylen ni ddim derbyn y math hwn o fisogynistiaeth yn y cyngor hwn.”
Cafwyd gwrthwynebiad gan gynghorwyr eraill, a chafodd y cadeirydd drafferth rheoli’r cyfarfod wrth i aelodau blin siarad dros ei gilydd.
‘Colli fy nhymer’
Yn y pendraw, dywedodd y Cynghorydd John y byddai’n tynnu’r sylwadau’n ôl “er mwyn parhau â’r ddadl”, ar ôl i brif weithredwr y cyngor dweud y gallai aelodau ddal arweinydd y grŵp Ceidwadol yn atebol drwy’r cod ymddygiad os oedden nhw’n meddwl bod hynny’n addas.
Ar ôl y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd John rannu adroddiad gan y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol am y cyfarfod a dweud ei fod wedi gwneud y sylwadau tra’r oedd yn flin.
Wrth rannu’r adroddiad ar wefan X, Twitter gynt, dywedodd: “Weithiau mae angen i ni gyfaddef ein bod ni’n cael pethau yn anghywir.
“Ddoe, fe wnes i golli fy nhymer mewn cyfarfod a dweud rhywbeth na ddylwn fod wedi’i ddweud.
“Dw i ddim yn credu bod y Cynghorydd Groucutt yn fisogynist.
“Dw i’n tynnu’r sylw yn ôl ac yn ymddiheuro.”
‘Trafodaeth barchus’
Fe wnaeth arweinydd y grŵp Llafur ddweud ei bod hi’n croesawu’r ymddiheuriad ar X hefyd: “Dw i’n falch bod y Cynghorydd Richard John wedi cydnabod ei gamgymeriad ac ymddiheuro i’r Cynghorydd Martyn Groucutt.
“Rydyn ni’n cael pethau’n anghywir a waeth i ba blaid rydyn ni’n perthyn, rhaid i ni ddal ein hunain i’r safonau uchaf posib.
“Mae gennym ni ddyletswydd i gael trafodaethau parchus, cadarn, cynhwysol a chwrtais.”
Fe wnaeth cyn-brif weithredwr Plaid Cymru, Dafydd Trystan, ganmol yr ymddiheuriad gan ddweud ei fod yn “esiampl brin” o rywun yn cymryd cyfrifoldeb ac ymddiheuro.
“Pan mae rhywun yn gwneud llanast o bethau mae hyn i weld yn ateb gwell nag ailadrodd y camgymeriad a thanseilio ffydd pobol mewn gwleidyddiaeth.”