Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ffyrdd, fel eu bod nhw’n aros yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf.

Gyda chyfnodau hirach o dywyllwch yn ystod y dydd, ac efo amodau tywydd gwaeth, mae’n golygu bod y perygl o fod mewn gwrthdrawiad ar y ffyrdd yn uwch.

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru’n cynghori defnyddwyr y ffyrdd fod angen paratoi a chymryd gofal ychwanegol mewn amodau tywyllach.

Mae’n bwysicach fyth fod gyrwyr yn wyliadwrus o bob defnyddiwr ffyrdd o’u cwmpas, ac fe ddylen nhw ystyried hefyd pa mor hawdd i’w gweld ydyn nhw.

Mae’r terfyn cyflymder 20m.y.a. newydd mewn ardaloedd prysur ledled Cymru yn golygu bod gan yrwyr fwy o amser i adnabod peryglon ac i yrru’n bwrpasol yn ymyl pobol eraill, medden nhw.

Ond yn anffodus, dydy pob gyrrwr ddim yn cadw at y gofynion, yn parhau i droseddu, ac mae angen i bob un ohonom sy’n defnyddio’r ffyrdd fod yn wyliadwrus i yrru gwael ac anghyfreithlon er mwyn lleihau ein perygl o gael ein brifo.

Camau i’w cymryd

Yn ôl Teresa Ciano, cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, er mwyn diogelwch mae’n rhaid cadw at y gyfraith ar y ffyrdd, ac mae modd cymryd camau er mwyn sicrhau diogelwch pawb ar y ffyrdd.

“Ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, rhaid i yrwyr gadw at gyfraith traffig ffyrdd bob amser, a dilyn y rheolau a’r canllawiau yn Rheolau’r Ffordd Fawr,” meddai.

“Mewn tywydd tywyll a newidiol, mae’n hanfodol fod gyrwyr yn gallu gweld defnyddwyr ffyrdd bregus ac yn gallu arafu a dod â’u cerbyd i stop yn ddiogel.

“Rydyn ni’n annog gyrwyr i wirio bod eu cerbyd mewn cyflwr sy’n addas i’r ffordd.

“Rhaid i bob teiar fod heb eu difrodi, gyda digon o afael a bod wedi’u chwythu i’r pwysau cywir.

“Rhaid i bob golau fod yn lân ac yn gweithio’n iawn, gyda’r botel hylif golchi’n llawn i gadw’r ffenestr flaen yn glir; mae’r gallu i weld pobman heb rwystr yn hanfodol ar gyfer gyrru’n ddiogel ac amddiffyn defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed.

“Gall cerddwyr a beicwyr gynyddu eu hamlygrwydd yn hawdd trwy wisgo lliwiau llachar yn ystod y dydd, ac yn y tywyllwch dewis ategolion adlewyrchol, esgidiau neu ddillad all gael eu gweld yng ngoleuadau cerbydau.

“Mae croesi’r ffordd wrth fannau croesi pwrpasol pryd bynnag y bo modd bob amser yn opsiwn mwy diogel, yn enwedig wrth gerdded neu feicio yn y tywyllwch.”

Cyngor pellach

Mae beicwyr yn cael eu hatgoffa bod rhaid cael golau blaen gwyn a golau cefn coch ar eu beic.

Gall cerddwyr, ar y llaw arall, wneud defnydd da o fflachlamp safonol neu ffôn symudol.

Gall aelodau o’r cyhoedd sydd wedi gweld troseddau gyrru roi gwybod amdanyn nhw ac uwchlwytho tystiolaeth fideo neu ffotograffig drwy fynd i www.gosafesnap.cymru.