Mae cigydd adnabyddus yn dweud ei bod hi’n “fraint” cael beirniadu cystadleuaeth newydd sbon yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.

Mae’r trefnwyr, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wedi cyhoeddi cystadleuaeth asennau bîff am y tro cyntaf, a honno yn yr Adran Fwtsiera.

Beirniaid a noddwyr y gystadleuaeth yw’r tad a mab, Arwyn a Steve Morgans o Morgans Family Butchers yn Aberhonddu.

Wedi’u lleoli yng nghalon y canolbarth, mae gan Morgans Family Butchers hanes hir o ddarparu cynhyrchion a blasynnau cig traddodiadol o ansawdd, o’u dwy siop wedi’u lleoli yn Aberhonddu a Llanfair ym Muallt.

Er bod y ddau wedi beirniadu llawer o gystadlaethau cynhyrchion cig o’r blaen, dyma fydd y tro cyntaf i’r tad a’r mab feirniadu gyda’i gilydd.

Cadw traddodiad yn fyw gyda’i gilydd

Er bod y diwydiant ffermio wedi wynebu heriau, mae rhai o’r prif draddodiadau wedi’u cadw’n fyw gan unigolion fel Arwyn a Steve Morgans.

“Dyna fraint ydy hi i mi fod yn beirniadu’r gystadleuaeth yma gyda fy nhad, yr ystyriaf ei fod yn ffrind gorau imi.” meddai’r mab.

“Mae’r diwydiant wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd, ac rydym wedi datblygu ac arallgyfeirio ein busnes i fodloni anghenion cyfoes cwsmeriaid heddiw, tra byddwn yn dal i gadw’r arferion bwtsiera traddodiadol hynny yn fyw.

“Rwyf yn wir edrych ymlaen at feirniadu’r gystadleuaeth yma ac yn fwyaf oll i’n cymuned ei chefnogi ac i arddangos y diwydiant manwerthu yn ei gyfanrwydd.”

Y gystadlaeaeth

Bydd y Ffair Aeaf yn agor ei gatiau ar ddydd Llun, Tachwedd 27 a dydd Mawrth, Tachwedd 28.

Yn ogystal ag amrywiol gynhyrchion cig, hamperi, a dofednod wedi’u trin, bydd y gystadleuaeth asennau bîff newydd yn cael ei chyflwyno eleni.

Gydag arian gwobrwyo, rhosedau a gwobrau i gyd ar gael, mae gan gigyddion, ffermwyr a chynhyrchwyr cig lawer i’w ennill wrth gystadlu yn y dosbarth newydd, ac o gymryd rhan yn yr arwerthiant i arddangos eu nwyddau i’r cyhoedd yn go iawn.

Caiff cystadleuwyr gynnig naill ai yn nosbarth yr heffrod neu’r bustych, a bydd y beirniaid yn chwilio am bedwar asgwrn o asen flaen wedi’u torri o chwarthor blaen naw asgwrn.

Rhaid i bob bustach a heffer fod dan 30 mis oed.

Bydd y beirniadu’n dechrau am 5yp ar ddydd Llun Tachwedd 27, gyda’r arwerthiant yn digwydd y diwrnod canlynol am 10:30yb.

Dylai unrhyw un sy’n awyddus i roi cynnig ar y gystadleuaeth newydd, neu yn unrhyw un o’r dosbarthiadau yn yr Adran Fwtsiera, fynd i wefan y Sioe.

Mae’r ceisiadau’n cau heddiw (dydd Llun, Tachwedd 6).