Mae dwsinau o bobol wedi bod allan yn y tywydd garw i gefnogi gweithwyr dur ar safle Tata ym Mhort Talbot sy’n wynebu dyfodol ansicr.
Mae’r diwydiant yn wynebu’r hyn sy’n cael ei alw’n gyfnod o newid, nid yn unig i’r gweithfeydd dur yn y dref ond i’r dref yn ei chyfanrwydd hefyd.
Mae hyn o ganlyniad i gyhoeddiadau y gallai’r gweithfeydd dur enfawr sy’n cyflogi oddeutu 4,000 o bobol wynebu cael ei redeg gan drydan dros y tair blynedd nesaf, gan golli hyd at 3,000 o swyddi.
Yn ddiweddar, fe wnaeth y cwmni sydd dan berchnogaeth teulu o India gyhoeddi manylion ynghylch cytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi £1.25bn yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, gosod ffwrneisi ailgylchu dur trydan, a chau dau o’r prif ffwrneisi chwyth sy’n gwneud dur.
Mae hyn hefyd wedi arwain at bryderon gan undebau y gallai dros 3,000 o swyddi gael eu torri, gan nad oes angen cynifer o staff ar gyfer gwneud dur arc trydan, sy’n golygu ailgylchu yn hytrach na chreu dur o’r newydd.
Undebau’n ymateb
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae undebau wedi bod yn honni bod Tata Steel yn bwriadu cyhoeddi bod y rhan fwyaf o’u busnes yng ngweithfeydd mwya’r Deyrnas Unedig am gael ei gau.
Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd y daw’r cyhoeddiad hwnnw – os daw’r fath gyhoeddiad o gwbl.
Fe arweiniodd y cyhoeddiad at nifer o aelodau o undebau a grwpiau cymunedol yn mynd i gefnogi’r hyn gafodd ei ddisgrifio fel digwyddiad gweithredu “gweladwy a chlywadwy iawn” yn y dref ddydd Iau, Hydref 2, gafodd ei gynnal er mwyn rhoi pwysau ar wleidyddion i gefnogi mesurau sy’n cefnogi swyddi dur presennol y dref.
Dur gwyrdd, nid torri swyddi
Mae Ian Williams yn uwch gynrychiolydd Uno’r Undeb, ac fe siaradodd yn y digwyddiad.
Pe bai’r fath symudiad yn digwydd, meddai, byddai angen gwneud hynny mewn ffordd sy’n hybu’r defnydd o ddur gwyrdd, gyda mwy o swyddi’n cael eu creu yn hytrach na chael eu torri.
“Os ydyn nhw ond yn torri’r 3,000 o swyddi hyn heb roi’r cynllun trawsnewid cywir yn ei le, byddai’n achosi dinistr llwyr,” meddai.
“Yn fy marn i, fydd yna ddim Port Talbot, a dim coridor de Cymru chwaith.
“Does neb yn dadlau nad oes angen i ni ddatgarboneiddio a newid ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r holl fyd yn newid, ond mae angen i ni ei wneud e mewn ffordd gyfrifol a chymdeithasol gyfiawn, lle gallwn ni dyfu ein heconomi, tyfu gweithgynhyrchu dur, a cheisio dod yn arweinydd mewn dur gwyrdd yn hytrach na jest meddwl am doriadau.”
‘Dim modd adfer’
“Rydyn ni i gyd yn barod i symud tuag at ddyfodol gwyrddach, ond ni fyddai modd adfer o’r effaith y byddai’r ffwrnais arc trydan yn ei chael ar hyn o bryd ar y gweithlu a busnesau lleol,” meddai’r cyn-weithiwr dur Jason Bartlett o Lanelli.
“Unwaith mae’r swyddi wedi mynd, maen nhw wedi mynd, oherwydd does dim angen yr un nifer o bobol arnyn nhw i redeg arc trydan ag sydd ei angen ar gyfer ffwrnais chwyth confensiynol.
“Bydd angen i’r trawsnewidiad ddigwydd, ond dros gyfnod o amser fydd yn lleihau’r diswyddiadau a ddim yn eu gwneud nhw mor ddifrifol ag yr ydyn nhw.
“Rydyn ni wedi gweld cau ffatrioedd yn y gorffennol mewn llefydd fel Glyn Ebwy, a dydyn nhw byth yn adfywio nac yn tyfu eto yno.
“Nid dim ond y 3,000 o swyddi fydd yn mynd, ond swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan, fyddai’n hollol ddinistriol i’r ardal.”
‘Newyddion ofnadwy i’r ardal’
“Mae hyn yn newyddion ofnadwy i’r gymuned, a heb fuddsoddiad gallen ni weld miloedd o ddiswyddiadau, ochr yn ochr â cholli ein gallu i greu dur craidd a graddau eraill o ddur fyddai’n eu galluogi nhw i gwblhau eu llyfr archebion,” meddai Malcolm Gullam o Bort Talbot.
“Wrth gwrs ein bod ni o blaid ynni gwyrdd, ond mae dal angen i ni gynhyrchu dur yn y wlad hon, ac os na allwn ni wneud hynny bydd yn rhaid i ni ei fewnforio o lefydd fel Tsieina ac India, lle maen nhw hefyd yn defnyddio ffwrneisi chwyth, felly mae hi ond yn symud y broblem drosodd.”
Condemnio
Mae Uno’r Undeb, prif undeb y Deyrnas Unedig, wedi lleisio barn yr wythnos hon hefyd, gan alw ar y llywodraeth i ymyrryd ar frys ar y safle drwy gymryd rheolaeth o gyfran o ddiwydiant dur y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau “nad yw ond yn goroesi, ond yn ffynnu”.
“Mae Uno’r Undeb yn condemnio ystyriaeth Tata o ddiswyddiadau torfol,” meddai Sharon Graha, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.
“Dydyn ni ddim yn derbyn fod angen torri’r un swydd.
“Mae strategaeth llywodraethau olynol wedi methu.
“Ddylai trethdalwyr ddim bod yn talu’r bil ar gyfer buddsoddiad newydd oni bai bod hynny’n gysylltiedig â sicrwydd swyddi rhwymol.
“Unig bwrpas Tata yw gwasanaethu eu rhanddeiliaid, nid cymunedau dur y Deyrnas Unedig.
“Dim ond drwy’r llywodraeth yn cymryd cyfran o’r cwmni y bydd y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud er lles economi’r Deyrnas Unedig.”