Mae gwaith uwchraddio gwerth £2m wedi cael ei gwblhau yng ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn.

Ar ôl blwyddyn, mae’r gwaith ar y Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr wedi’i gwblhau.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys llety a chyfleusterau hunanarlwyo, ardaloedd cyfarfod, gweithdy ac ystafelloedd newid.

Heddiw (Tachwedd 6), mae’r Urdd wedi cyhoeddi mai Mair Edwards yw Cyfarwyddwr newydd y gwersyll hefyd.

Mae ganddi dros 16 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel strategol ac fel aelod o Uwch Dîm yn y maes datblygu ac adfywio cymunedol o fewn y sector dai.

“Mae darparu’r cyfleoedd gorau i bobol ifanc wedi bod yn greiddiol i fy ngwaith ers degawdau bellach, ac am barhau i fod yn flaenoriaeth gen i yn rhinwedd y swydd hon,” meddai Mair Edwards, sy’n olynu Huw Antur.

“Dros y blynyddoedd mae Glan-llyn wedi llwyddo i wireddu cynlluniau sylweddol er mwyn gwella safonau a chyfleusterau’r gwersyll, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol i alluogi hyn i ddigwydd.

“Mae Canolfan Ddŵr newydd Glan-llyn gystal ag unrhyw ganolfan yn unrhyw le, ac mae hyn yn rhoi’r hyder i ni barhau i ddenu plant a phobol o bob cwr i gymryd rhan mewn gweithgareddau o bob math.”

Mair Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

‘Ansawdd uchaf’

Wrth drafod y ganolfan newydd, fydd yn cynnwys ystafelloedd i’w llogi i gynnal cyfarfodydd neu weithdai, dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod y Ganolfan Ddŵr yn eu galluogi i “barhau i gynnig gweithgareddau awyr agored o’r ansawdd uchaf yng Nglan-llyn, ac yn rhan o weledigaeth ehangach i uwchraddio cyfleusterau Gwersylloedd yr Urdd”.

“Dros y tair blynedd diwethaf mae Glan-llyn wedi derbyn buddsoddiad o £2m, gyda diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AoS, er mwyn datblygu darpariaeth y ganolfan awyr agored – sydd hefyd yn cynnwys trawsnewid adeilad 150 oed, Glan-llyn Isa’, i lety hunangynhaliol a thrawiadol,” meddai Siân Lewis.

“Mae Glan-llyn Isa’ yn ateb y galw gan aelodau hŷn yr Urdd am lety annibynnol, ac wedi bod yn hynod boblogaidd ers ei agoriad yn 2021.”

Erbyn gwanwyn 2024, bydd Glan-llyn hefyd yn agor safle gwersylla newydd, Cae Penllyn, fydd yn cynnwys cegin, adnoddau hunanarlwyo ac ardal gymunedol i grwpiau mawr a bach o wersyllwyr.