Dydy hi ddim yn syndod na fydd cynllun i storio trenau i’w defnyddio pan fo digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd yn mynd yn ei flaen, medd arbenigwr ar drafnidiaeth.
Y bwriad oedd adeiladu rheilffordd 1.6km o hyd i storio trenau fyddai’n cael eu defnyddio ar ddiwrnodau cyngherddau neu gemau mawr yn y brifddinas, nes i Lywodraeth Cymru ddileu’r cynllun heddiw (dydd Llun, Tachwedd 6).
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru a’r Llywodraeth, byddai’r rheilffordd yn costio mwy na’r disgwyl, a fyddai’r cynllun ddim yn rhoi gwerth da am arian.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud nad oes modd iddyn nhw gael y £10m gafodd ei wario ar gynllunio’r rheilffordd ger y gwaith dur yng Nghasnewydd yn ei ôl chwaith.
Mae anawsterau wedi bod gyda thrafnidiaeth ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd yn y gorffennol, gan gynnwys pan berfformiodd Ed Sheeran yn Stadiwm Principality y llynedd.
‘Buddsoddi mewn pethau angenrheidiol’
Yn sgil cynnydd mewn costau adeiladu a’r pandemig, mae’r sefyllfa ariannol yn dynnach, meddai’r Athro Andrew Potter, sy’n arbenigwr ar drafnidiaeth a logisteg ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn syndod, roedd yr hyn roedden nhw’n bwriadu ei adeiladu yn rhywbeth fyddai’n neis ei gael yn hytrach nag anghenraid,” meddai wrth golwg360.
“Pan gafodd y cynllun ei greu roedd hi’n amser gwell o bosib, roedd costau adeiladu’n is, doedd yna ddim pandemig, felly roedd yn gyfle i weld sut i adeiladu a datblygu rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.
“Y realiti yw, yn y bum mlynedd ers hynny’n amlwg fe wnaeth y pandemig hitio, mae costau adeiladu rheilffyrdd wedi cynyddu’n eithaf sylweddol, ac rydyn ni mewn sefyllfa gyda chyllid trafnidiaeth ar y funud lle mae’n rhaid buddsoddi yn y pethau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyrraedd targedau polisi yn hytrach na phethau fyddai’n neis eu gwneud.”
Er bod pethau i weld yn gwella, mae mwy i’w wneud, meddai.
“Yn sicr, roedd hi i weld bod y cyngherddau mawr yr haf hwn wedi cael eu trin yn well na’r flwyddyn gynt.
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn dysgu wrth drio cael pobol allan o Gaerdydd mor sydyn â phosib, ac efo’r lleiaf o strach â phosib.
“Ond mae yna wastad bethau y gellir eu gwneud yn well. Un o’r prif faterion sydd wastad yn codi ydy lefel y gwasanaeth fyny i ogledd Cymru, yn enwedig i bethau fel gemau pêl-droed pan nad oes trenau hwyr yn mynd fyny.
“Felly sicrhau bod yna wasanaethau ychwanegol yn fan yna, neu ei gwneud hi’n bosib rhedeg trenau hirach fel bod hi’n bosib cario mwy o bobol ar yr un pryd a gwneud y gorau o’r llwybrau sydd ar y rhwydwaith rheilffyrdd.”
Metro De Cymru am gael “effaith drawsnewidiol”
Dydy’r newid ddim yn effeithio ar gynlluniau i agor gorsafoedd newydd o amgylch Casnewydd a Chaerdydd – gorsafoedd fel Llanwern.
Mae disgwyl i Fetro De Cymru, fydd yn arwain at drenau newydd a gwasanaethau mwy cyson – yn enwedig rhwng y Cymoedd a Chaerdydd – gael effaith “drawsnewidiol”, yn ôl Andrew Potter.
“Bydd cael effaith, nid yn unig i’r rhai fydd yn ei ddefnyddio o ddydd i ddydd, ond y rhai fydd yn mynd i ddigwyddiadau hefyd,” meddai.
“Bydd trenau amlach ar linell y Cymoedd yn sicr yn fwy effeithiol i fynd â phobol fyny i’r Cymoedd. Ar gyfer pethau fel y rygbi, bydd hynny’n arbennig o dda.
“Pan mae hi’n dod at gyngherddau, bydd y Metro yn helpu ond rydych chi’n denu pobol o ardal ddaearyddol fwy.
“Mae’r cyngherddau yn denu pobol o Loegr, ac felly mae symudiadau teithwyr ychydig yn wahanol yn sgil hynny.”
‘Llanast llwyr’
Wrth ymateb, dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod y datblygiad yn “llanast llwyr”.
“Nid yn unig mae gweinidogion Llafur yn y Senedd wedi canslo’r cynllun hwn, maen nhw wedi gwastraffu £10m yn y broses,” meddai Andrew RT Davies.
Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i droi eu cefnau ar y cynllun hefyd.
“Dylai ein prifddinas allu delio â digwyddiadau rhyngwladol – mae’n anodd deall y penderfyniad hwn,” meddai Delyth Jewell, llefarydd trafnidiaeth y Blaid.
“Bydd yn siŵr o arwain at fwy o strydoedd yn llawn traffig, mwy o lygredd aer a mwy o amharu ar drafnidiaeth bob tro mae cyngerdd mawr neu gêm yn cael eu cynnal.
“Bydd yn codi cywilydd.”