Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun cymorth morgeisi ‘Cymorth i Aros Cymru’ i helpu perchnogion tai sy’n ei chael hi’n anodd talu eu morgais.

Gan fod cyfraddau llog, costau ynni, a chostau byw yn codi, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy’n wynebu llawer o berchnogion cartrefi.

Yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cafodd ymrwymiad ei wneud i edrych ar forgeisi awdurdodau lleol.

Cafodd Cynllun Cymorth i Aros Cymru ei ystyried yn ystod trafodaethau am y farchnad forgeisi, ac am sut mae modd darparu cymorth wedi’i dargedu.

Yn ystod 2022-23 a 2023-24, darparodd Llywodraeth Cymru fwy na £3.3bn o gymorth i helpu pobol sy’n cael trafferth gyda chostau byw, drwy raglenni wedi’u targedu oedd yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol.

Yn rhan o’r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer 2023-24, rydym wedi trefnu bod £40m o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gael yn ystod y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf i gyflwyno cynlluniau fydd yn darparu cymorth ariannol hyblyg.

Cymorth i Aros Cymru

Bydd Cymorth i Aros Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymorth gaiff ei gynnig gan ddarparwyr morgeisi drwy Siarter Morgeisi’r Deyrnas Unedig i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd fforddio eu taliadau morgais.

Bydd y cynllun yn cynnig opsiwn i berchnogion cartrefi sy’n ei chael hi’n anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref.

Bydd yn gwneud hynny drwy gynnig ad-dalu rhan o falans morgais sydd ganddyn nhw eisoes drwy roi benthyciad ecwiti cost isel sy’n cael ei ddiogelu drwy ail arwystl (i’w dalu ar ôl talu benthyciwr yr arwystl cyntaf), gan leihau’r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.

Bydd y Cynllun yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru a bydd yn ddi-log am y pum mlynedd gyntaf.

Pwrpas y Cynllun yw lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o weld eu cartrefi’n cael eu hadfeddu ac o fod yn ddigartref, drwy roi amser iddyn nhw ddatrys y problemau ariannol sylfaenol sy’n eu hwynebu.

‘Helpu rhagor o bobol yn gynt’

“Mae llawer o heriau i berchenogion tai yn yr hinsawdd economaidd bresennol sydd ohoni wrth iddyn nhw wynebu costau tanwydd uwch o lawer, chwyddiant uchel, a phrisiau uwch ym maes rhentu a thai,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

“Yn aml, ’dyw eu hincwm ddim yn codi i’r un graddau.

“Nod Cynllun Cymorth i Aros Cymru yw helpu perchenogion tai i barhau i fyw yn y cartrefi y mae ganddyn nhw gymaint o feddwl ohonyn nhw.

“Drwy ehangu’r cymorth achub morgeisi rydyn ni’n ei gynnig ar hyn o bryd, mae cyfle gyda ni i helpu rhagor o bobl yn gynt cyn iddyn nhw wynebu’r sefyllfa ofnadwy lle mae bygythiad i’w cartrefi gael eu hadfeddu.

“Hoffwn i ddiolch i UK Finance a benthycwyr morgeisi sy’n cefnogi’r Cynllun eisoes, a dw i’n gobeithio y bydd rhagor o fenthycwyr yn gallu cynnig eu cefnogaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Byddwn ni’n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu gyda’r pwerau sydd gennym i helpu i amddiffyn aelwydydd agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.”

‘Ateb a wnaed yng Nghymru’

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, mae’r cynllun hwn yn “ateb a wnaed yng Nghymru”.

“Mae’r gwaith manwl ar y farchnad forgeisi a wnaed drwy’r Cytundeb Cydweithio wedi arwain at greu Cynllun Cymorth i Aros Cymru er mwyn helpu pobol y mae’r cyfraddau llog cynyddol uwch yn effeithio arnyn nhw,” meddai.

“Drwy ddefnyddio’r sefydliadau ariannol a’r pwerau sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, rydyn ni wedi gallu creu ateb a Wnaed yng Nghymru ac a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i’r bobl hynny sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf.

“Bydd y cymorth newydd hwn, sydd wedi’i dargedu, yn helpu rhagor o bobol yn gynt, nid dim ond y rheini sydd dan fygythiad o weld eu cartrefi’n cael eu hadfeddu, sy’n golygu y byddan nhw’n gallu aros yn eu cartrefi ac osgoi’r straen o fethu â thalu eu morgais.

“Er mai cyfyngedig yw’r pwerau a’r adnoddau sydd gennym yn y maes hwn, ein gobaith yw y bydd y cymorth uniongyrchol sy’n cael ei ddarparu yng Nghymru yn rhwyd ddiogelwch ychwanegol i liniaru rhai o’r effeithiau gwaeth sy’n gysylltiedig ag annhegwch yr amodau a grëwyd yn San Steffan.”

‘Croesawu unrhyw fentrau rhagofalus’

Mae Shelter Cymru yn dweud eu bod nhw’n “croesawu unrhyw fentrau rhagofalus” i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Rydym wedi bod yn ymgyrchu am ragor o gymorth i berchnogion cartrefi sy’n ei chael hi’n anodd ad-dalu eu morgais, sy’n un o nifer o grwpiau sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac sy’n ceisio cymorth gan Shelter Cymru,” meddai’r Prif Weithredwr Ruth Power.

“Rydym yn croesawu unrhyw fentrau rhagofalus sy’n ceisio atal digartrefedd ac sy’n ehangu’r rhwyd ddiogelwch i gartrefi sy’n wynebu argyfyngau costau tai a chostau byw.

“Bydd y cynllun hwn yn cynnig cymorth i gartrefi cymwys yn fuan pan fydd ôl-ddyledion yn dechrau cronni, yn hytrach na gorfod aros hyd nes y maent yn wynebu straen difrifol adfeddu.

“Rhaid inni nawr sicrhau fod cymaint o gartrefi â phosibl yn cael yr opsiwn i’w ddefnyddio er mwyn aros yn eu cartrefi, gan ddysgu gan bobol sydd mewn perygl o fod yn ddigartref beth yw’r ffordd orau y gall cynllun o’r fath eu cynorthwyo.

“Dylai unrhyw un sydd mewn perygl o golli eu cartref ar unwaith gysylltu â llinell gymorth Shelter Cymru ar 08000 495 495 i gael cyngor annibynnol.”

Achub Morgeisi

Mae Achub Morgeisi, sydd wedi gweithredu yng Nghymru ers 2008, ar gael o hyd ac mae’n parhau i fod yn ddewis olaf gwerthfawr, ond mae’n rhaid bod pobol yn wynebu achos cymryd meddiant eisoes er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth.

Bydd Cymorth i Aros Cymru yn ehangu hynny i gynnwys pobol sy’n wynebu achos cymryd meddiant a/neu galedi ariannol.

Drwy weithredu nawr a buddsoddi mwy, bydd modd atal llawer o unigolion a theuluoedd rhag wynebu achosion adennill meddiant a bod yn ddigartref.

Byddai hynny’n ychwanegu at y rhestrau aros sydd eisoes dan straen a hefyd at gostau uchel y llety dros dro gaiff ei ddarparu gan yr awdurdodau lleol.