Mae 46 o fudiadau ledled Cymru yn galw ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i gefnogi cadoediad yn Gaza a heddwch a chyfiawnder i holl bobol Israel a Phalesteina.

Mewn llythyr agored at y Prif Weinidog, mae ystod o fudiadau, gan gynnwys Cyngor Mwslimaidd Cymru, BLM Caerdydd, Ymgyrch Cydsefyll â Phalesteina Caerdydd, Cymdeithas y Cymod, Merched y Wawr a’r Urdd, yn erfyn ar y Llywodraeth i gefnogi cadoediad, ynghyd â hawliau i Balestiniaid a chymorth dyngarol i Lain Gaza.

Daw’r llythyr cyn i Aelodau’r Senedd bleidleisio ar gynnig gan Blaid Cymru dros gadoediad fydd yn dod gerbron y Senedd ddydd Mercher (Tachwedd 8).

Hyd yn hyn, mae’r Prif Weinidog wedi datgan cefnogaeth i saib dyngarol, mesur mae’r mudiadau yn y llythyr yn ei alw’n “annigonol”.

Mae’r mudiadau’n galw ar y Prif Weinidog a holl Aelodau’r Senedd i bleidleisio o blaid cadoediad llawn yn lle hynny.

‘Mae gennym lais’

Mae’r llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i ddatgan cefnogaeth yn gyhoeddus i:

  • gadoediad
  • agor llwybrau brys ar gyfer cymorth dyngarol
  • ymchwiliad i droseddau rhyfel
  • ymrwymiad i drafodaethau heddwch
  • diwedd ar feddiannaeth anghyfreithlon tiriogaethau Palestina a gorthrwm y Palestiniaid, gydag ymrwymiad i gyfiawnder a heddwch i holl ddinasyddion Israel a Phalesteina.

“Mae toriad yn y bomio, dim ond i fwy o sifiliaid farw unwaith y bydd yn ailddechrau, yn annigonol,” meddai’r mudiadau yn y llythyr.

“Mae angen cadoediad ar fyrder, a dyma’r unig ffordd i atal rhagor o farwolaeth a dechrau cymryd camau tuag at drafodaethau dros heddwch.

“Mae Prif Weinidog yr Alban, arweinydd Llafur yr Alban a Meiri Llundain a Manceinion wedi galw am gadoediad, yn ogystal ag Aelodau Senedd Cymru a San Steffan o bob plaid, a gwleidyddion etholedig ledled y byd.

“Byddai’n drueni pe na bai ein Prif Weinidog, arweinydd Cenedl Noddfa sydd â thraddodiad balch o ryngwladoliaeth, yn ymuno â’r galwadau hynny.

“Efallai nad oes gan Gymru bwerau dros faterion rhyngwladol ond mae gennym lais.

“Mae gennych chi ddyletswydd ddemocrataidd i gynrychioli’r mwyafrif o bobol yng Nghymru sydd am weld cadoediad, yn ogystal â dyletswydd foesol i ddefnyddio’ch safle i ymuno â’r corws rhyngwladol cynyddol dros heddwch.”

‘Ar ba ochr o hanes fydd ein Prif Weinidog?’

Dywed Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, fod hwn yn gyfle i’r egwyddor o gael Cymru fel Cenedl Noddfa olygu rhywbeth.

“Mae miloedd o bobol ddiniwed wedi’u lladd yn barod ac wrth i’r ymladd a’r trais barhau mae’r dasg o ganfod setliad heddychlon parhaol yn dod yn bwysicach fyth,” meddai.

“Mae dyletswydd arnom ni i ymuno â’r alwad ryngwladol dros heddwch, ac mae’r ystod o fudiadau sydd wedi llofnodi’r llythyr yn dangos y gefnogaeth eang sydd i’r alwad honno yng Nghymru.

“Mae Llywodraethau’r Alban ac Iwerddon wedi galw am gadoediad yn barod.

“Mae sawl arweinydd blaenllaw arall yn y Blaid Lafur, gan gynnwys Anas Sarwar, Sadiq Khan, Andy Burnham a’i Weinidog Iechyd ei hun, Eluned Morgan, eisoes wedi gwneud safiadau egwyddorol eu hunain.

“Ar ba ochr o hanes fydd ein Prif Weinidog a’n Llywodraeth yma yng Nghymru?”

“Faint mwy o bobol ddiniwed fydd yn gorfod cael eu lladd cyn i bawb sylwi fod angen cadoediad?,” ychwanega Rhun Dafydd, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, syd wedi llofnodi’r llythyr hefyd.

“Mae gan Gymru hanes hir o heddychiaeth a dylen ni barhau i arwain ar hyn trwy atgyfnerthu’r neges taw dim ond trwy heddwch a chymodi y daw newid hir dymor i’r ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol.”

Llain Gaza

Prif Weinidog Cymru’n galw am saib dyngarol yn Gaza

Ond mae Cyngor Mwslemiaid Cymru am i Mark Drakeford alw am gadoediad ar unwaith