Mae Prif Weinidog Cymru yn galw am saib dyngarol yn Gaza, fel bod cymorth yn gallu mynd i mewn i’r llain.
Gwnaeth Mark Drakeford ddatganiad i’r BBC yn dweud ei fod yn cefnogi galwadau Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, am saib dyngarol ar ôl i ddeuddeg o aelodau o’i blaid yn y Senedd alw am gadoediad.
Mae Cyngor Mwslemiaid Cymru am iddo ymuno â chynrychiolwyr Llafur eraill dros y Deyrnas Unedig – fel Anas Sarwar, arweinydd y blaid yn yr Alban; a Sadiq Khan ac Andy Burnham, meiri Llundain a Birmingham – wrth alw am gadoediad hefyd.
Dywed y Prif Weinidog ei fod yn cefnogi galwadau Keir Starmer am saib dyngarol fel bod cymorth yn gallu cyrraedd y rhai sydd ei angen ar frys.
“Byddai egwyl yn creu amodau a allai arwain at gadoediad ac yna at y camau hollbwysig nesaf i ddarparu llwybr ymarferol at y datrysiad heddychlon mawr ei angen,” meddai Mark Drakeford.
Fe wnaeth dros draean o Aelodau o Senedd Cymru gefnogi’r galwadau am gadoediad ar unwaith yn Gaza yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys yr aelodau Llafur John Griffiths, Huw Irranca-Davies, Jack Sargeant a Mike Hedges.
‘Methu galw am gadoediad’
Mae adran iechyd Gaza, sy’n cael ei rhedeg gan y grŵp militaraidd Hamas, yn dweud bod dros 8,000 o Balestiniaid wedi cael eu lladd yno ers i Israel ddechrau bomio Llain Gaza ar ôl ymosodiadau terfysgol Hamas ar Hydref 7.
Yn ôl adroddiadau o Gaza, mae tanciau Israel wedi cael eu gweld ar y brif ffordd rhwng de a gogledd Llain Gaza, yn agos at Ddinas Gaza yn y gogledd.
Fe wnaeth dros 30 o lorïau cymorth fynd i mewn i Gaza ddoe (dydd Sul, Hydref 29), ond mae cyflenwadau trydan Gaza wedi’u diffodd ers i Israel eu rhwystro ddydd Gwener (Hydref 27).
“Yng nghyd-destun y trais hwn, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, ynghyd ag arweinydd yr wrthblaid, Syr Keir Starmer, wedi methu galw am gadoediad ac ymyrryd i amddiffyn bywydau Palesteiniaid,” meddai Dr Abdul Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru.
“Yn anffodus, mae hyn er gwaethaf y lladdfa systemig o Balesteiniaid, gan gynnwys lladd menywod a phlant yn ddiwahân, dadleoli gorfodol, a chosbi torfol drwy rwystro’r cysylltiad trydan, dŵr a chymorth gan Israel.”
“Mae cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i Balesteina yn glir, ac maen nhw’n edrych ar Lywodraeth Cymru i adlewyrchu eu pryderon,” meddai wedyn.
‘Colli teuluoedd cyfan’
Ychwanega’r datganiad gan Dr Abdul Azim Ahmed fod yn rhaid iddo bwysleisio’r effaith mae’r sefyllfa’n ei chael ar Fwslemiaid a Phalestiniaid Cymru.
“Yn y mis diwethaf, mae Palestiniaid Cymru wedi colli teuluoedd cyfan yn Gaza, wedi’u lladd mewn ymgyrchoedd bomio gan Israel.
“Mae gan bob Palestiniad yng Nghymru deulu sydd wedi cael eu dadleoli dros yr wythnosau diwethaf, ac maen nhw’n aros yn bryderus i glywed newyddion, i gael cadarnhad eu bod nhw dal yn fyw.
“Ymysg Mwslemiaid Cymreig, dydy’r ymgyrch dros Balesteina nid yn rywbeth i ddangos solidariaeth rhyngwladol yn unig yn ei gylch, ond i siarad dros fywydau a llesiant ein teuluoedd a’n ffrindiau.
“Rydyn ni’n edrych tuag atoch chi, Brif Weinidog, fel ein cynrychiolydd, fel arweinydd Cymru, i roi eich llais a’ch pŵer i’n galar.”
Yn sgil hynny, mae Cyngor Mwslemiaid Cymru yn galw ar Mark Drakeford i alw ar Rishi Sunak a Keir Starmer i fynnu cadoediad diamod a chaniatáu cymorth, trydan, tanwydd, bwyd a dŵr i Gaza.
Maen nhw hefyd eisiau iddo roi pwysau ar Keir Starmer a Rishi Sunak i fynnu bod trafodaethau diplomyddol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau heddwch hirdymor yn yr ardal.
“Ar ran Mwslemiaid Cymru, a phawb yng Nghymru sydd wedi ymgyrchu dros hawliau Palesteina, dw i’n eich annog chi i alw am ddiwedd i’r lladd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.