Mae’r Ymddiriedolaeth Cŵn yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi cynnig cyngor i un ym mhob tri o berchnogion ar drothwy arddangosfeydd a sioeau tân gwyllt ar Noson Guto Ffowc.
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Salford, mae cŵn yn sensitif i ystod ehangach o synau nag yr oedd pobol yn ei sylweddoli cyn hyn, ac felly mae’r Ymddiriedolaeth yn annog perchnogion i gadw eu cŵn dan do yn ystod tân gwyllt er mwyn osgoi straen diangen.
Maen nhw’n annog perchnogion i baratoi ymlaen llaw a throi at eu gwefan am y camau llawn o ran sut i gadw eu cŵn yn ddiogel ac yn dawel eu meddwl.
‘Pryderon cynyddol’
Yn ôl Angela Wetherall, rheolwr canolfan Ymddiriedolaeth Cŵn Cymru, mae bod yn ofn tân gwyllt yn rywbeth sy’n fwyfwy cyffredin ymhlith cŵn erbyn hyn.
Maen nhw’n dweud y gall tân gwyllt gael effaith negyddol sylweddol ar eu lles, ac fe all effeithio ar gŵn o bob oed.
“Mae cŵn yn ymateb i dân gwyllt mewn ystod o wahanol ffyrdd, felly mae’n hanfodol bod gennych chi gynllun clir, ymlaen llaw, i helpu’ch cŵn chi eich hunain i ymdopi,” meddai.
“Bydd rhai cŵn eisiau dod o hyd i guddfan glyd, a bydd eraill eisiau cysur a sicrwydd.
“Os yw eich ci yn ymddangos yn bryderus, mae’n werth tynnu eu sylw nhw gyda gêm neu ddanteithion i gadw eu sylw oddi ar synau tu allan.
“Gall perchnogion ymweld â gwefan yr Ymddiriedolaeth Cŵn am y canllawiau gorau o ran beth i’w wneud pan fydd tân gwyllt wedi dechrau.”
Canllawiau er mwyn paratoi:
- Arhoswch gyda’ch cŵn, oherwydd maen nhw’n gallu mynd i banig os ydyn nhw ar eu pennau eu hunain – bydd cadw cwmni iddyn nhw’n tawelu eu hofnau
- Peidiwch â mentro allan yn y tywyllwch – a pheidiwch â gorfodi eich cŵn i fynd allan
- Sicrhewch fod eich cŵn yn gysurus dan do cyn i’r tân gwyllt ddechrau
- Sicrhewch fod ganddyn nhw ofod diogel i fynd iddo pe bai angen
- Trowch at filfeddyg am gyngor ynghylch pryder
- Rhowch unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol i’ch cŵn cyn i’r tân gwyllt ddechrau – gall fod gan filfeddyg feddyginiaeth at bryder os oes angen
- Sicrhewch nad oes modd i’ch cŵn ddianc o’r tŷ nac o’r ardd, gan y gallen nhw geisio rhedeg i ffwrdd mewn ofn
Unwaith fydd y tân gwyllt wedi dechrau:
- Caewch y llenni, trowch y golau a’r teledu neu gerddoriaeth ymlaen i dawelu’r sŵn tu allan
- Ceisiwch adnabod anghenion eich cŵn a gadael iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw eisiau cuddio
- Cadwch lygad ar eich cŵn yn rheolaidd i sicrhau eu bod nhw’n ymdopi’n iawn
- Rhowch gysur iddyn nhw, neu eu gadael os ydyn nhw’n dewis cuddio
- Ceisiwch bwyllo ac ymlacio
Mae’r elusen yn dweud ei bod hi’n werth gwneud nodyn o ddulliau ymdopi oedd wedi gweithio’n dda, yn barod ar gyfer y tro nesaf, a dychwelyd i’r drefn arferol cyn gynted â phosib ar ôl y tân gwyllt.
Maen nhw’n dweud ei bod hi’n werth troi at filfeddyg ar gyfer unrhyw gyngor neu os oes gennych chi bryderon am y tro nesaf y bydd tân gwyllt.