Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu Cymrodyr cyntaf yn eu rhaglen newydd sydd wedi’i chyflwyno i ddathlu canrif a hanner ers sefydlu’r brifysgol.
Mae ymchwil y Cymrodyr yn amrywio o Ddeallusrwydd Artiffisial i ymfudo, a’r blaned Mawrth.
Bydd y pedwar Cymrawd yn derbyn rhwng dwy a thair blynedd o gyllid ar gyfer eu prosiect ymchwil penodol.
Cafodd y cynllun ei lansio i feithrin ymchwil mewn meysydd sydd eisoes yn gryf neu sydd ar gynnydd yn y Brifysgol.
Y Cymrodyr
Yn ôl canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021, mae canran Prifysgol Aberystwyth o waith ymchwil sydd o safon ryngwladol neu’n uwch wedi codi i 98%.
Cafodd mwy na thri chwarter o’r gwaith ymchwil ei gategoreiddio fel gwaith sy’n arwain yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol – naw pwynt canran yn uwch na’r asesiad diwethaf.
Y pedwar Cymrawd fydd yn ymuno ac yn cynhyrchu gwaith ymchwil newydd yw:
- Dr Eli Auslender, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Ysgolhaig ym maes ymfudo sy’n canolbwyntio ar hawliau ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ac ar y meini tramgwydd strwythurol a godir i’w rhwystro, yw Dr Eli Auslender.
Bydd ei brosiect yn canolbwyntio ar y tactegau negodi a ddefnyddir gan wladwriaethau datblygedig mewn cynadleddau hinsawdd i danseilio ymdrechion i ddatblygu hawliau ar gyfer ymfudwyr hinsawdd.
- Dr Thomas Dekeyser, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (gyda’r Adran Astudiaethau Ffilm a Theledu a’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth)
Daearyddwr digidol diwylliannol sy’n archwilio i’r cysylltiadau rhwng grym a gwrthwynebu yn y gofod digidol yw Dr Thomas Dekeyser.
Bydd ei brosiect yn canolbwyntio ar “besimistiaeth Deallusrwydd Artiffisial”, sef emosiynau, arferion a gwleidyddiaeth y rhai sy’n beirniadu deallusrwydd artiffisial.
- Dr Adam Hepburn, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Mae Dr Adam Hepburn yn gyn-fyfyriwr PhD yn y Brifysgol a fu’n gweithio ar hanes rhewlifol y blaned Mawrth.
Bydd ei brosiect newydd yn modelu llif y dŵr o dan rewlifoedd, sy’n hanfodol i ddeall sut maent yn ymateb i gynhesu hinsoddol.
- Dr Latif Tas, Adran y Gyfraith a Throseddeg
Ysgolhaig ym maes agweddau cymdeithasol ar y gyfraith yw Dr Latif Tas.
Mae’n gweithio ar gyfiawnder cymdeithasol, ymfudo, llywodraethu, rhywedd, trawsgenedlaetholdeb, gwrthdaro a symudedd cymdeithasol yn y Dwyrain Canol ac Ewrop.
Bydd ei brosiect newydd yn archwilio i les trawswladol ymfudwyr o safbwynt rhywedd.
‘Balch o’n traddodiad hir o ymchwil’
“Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn falch o’n traddodiad hir o ymchwil sy’n adeiladu ar sylfaen ein cryfderau hanesyddol i ymdrin â’r heriau cyfoes sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach,” meddai’r Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi ac Effaith.
“Mae’r prosiectau hyn yn dangos ehangder yr ymchwil sydd gennym ar y gweill yn y Brifysgol.
“Bydd ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol ac yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth am rai o faterion pwysicaf ein hoes.”