Mae Benjamin Netanyahu wedi cyhoeddi “ail ryfel annibyniaeth”, wrth i gyflenwadau trydan Gaza gael eu diffodd fel rhan o’r frwydr yn erbyn Hamas.

Dywed Prif Weinidog Israel ei fod e’n disgwyl brwydr hir ac anodd yn erbyn Palesteina, wrth iddo fe gyhoeddi mwy o gyrchoedd ar dir “i drechu’r gelyn milain”.

“Yn ystod wythnosau cynta’r rhyfel, fe wnaethon ni lansio cyrchoedd awyr enfawr oedd yn ergyd drom i’r gelyn,” meddai mewn cynhadledd.

“Fe wnaethon ni ddileu nifer o frawychwyr.

“Fodd bynnag, megis dechrau ydyn ni.

“Bydd y frwydr ar Lain Gaza yn anodd a hir; dyma ein hail ryfel annibyniaeth.”

Ond mae torri’r cyflenwadau trydan yn golygu bod llinellau ffôn a’r rhyngrwyd wedi’u colli, a bod y gwasanaethau brys yn ei chael hi’n anodd ymdopi â nifer y bobol sydd wedi’u hanafu a’u lladd.

Mae ceir ac asynnod yn cael eu defnyddio i gludo pobol i’r ysbyty.

Cefndir

Dechreuodd Israel ymosod ar Gaza ar ôl i gannoedd o aelodau o Hamas groesi’r ffin ar Hydref 7.

Cafodd sifiliaid eu lladd, a’u cartrefu eu dinistrio.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio na all ysbytai a gwasanaethau dyngarol barhau i weithredu heb drydan a dulliau cyfathrebu effeithiol.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd ymhlith y sefydliadau sy’n galw am gadoediad, ar ôl iddyn nhw ddweud eu bod nhw wedi colli cysylltiad â staff.

Mae Palesteina yn honni bod hyd at 7,700 o bobol wedi cael eu lladd yn Gaza ers Hydref 7, ar ôl i Hamas ladd oddeutu 1,400 o Israeliaid ar hyd y ffin.