Mae Dafydd Iwan yn honni bod agent provocateur wedi ceisio ei ddenu at gynllwyn ffug i lofruddio’r Brenin Charles adeg ei Arwisgo’n Dywysog Cymru.
Yn ei hunangofiant newydd, Still Singing ‘Yma o Hyd’, mae Dafydd Iwan yn datgelu bod hyn wedi digwydd cyn yr Arwisgo fis Gorffennaf 1969, pan oedd ei gân ddychanol ‘Carlo’ ar frig y siartiau pop Cymraeg.
Gan nodi bod pob llywodraeth yn tueddu i ddefnyddio “dulliau llawdrwm diangen i gadw llygad ar bobol”, dywed fod teimladau ynghylch yr Arwisgiad yn eu hanterth pan “brofais yn uniongyrchol ymgais eithaf pathetig gan agent provocateur i fy rhoi mewn llawer iawn o drwbl.”
Bydd ei hunangofiant yn cael ei lansio yn y gig cyntaf mewn cyfres o gigs dathlu yn Galeri Caernarfon.
‘Ni welais ef byth wedyn’
Yn ei hunangofiant, fydd yn cael ei lansio ar Dachwedd 9, mae Dafydd Iwan yn rhannu ei atgofion o’r sgwrs fer gafodd e gyda’r dyn dieithr cyn perfformio mewn cyngerdd yn Llanrwst.
“Cyrhaeddais gyngerdd yn Llanrwst a gweld bod y lle yn berwi o blismyn, a daeth dau ohonyn nhw ataf i ddweud eu bod wedi derbyn gwybodaeth bod rhywun allan i’m lladd, felly roedden nhw yno mewn niferoedd i’m hamddiffyn,” meddai.
“Cefais fy hebrwng i’r babell lle’r oedd y cyngerdd yn cael ei gynnal a’m tywys i ystafell fach mewn cornel o’r babell.
“‘Fe fyddwn ni y tu allan os bydd arnoch ein hangen’, medden nhw wrtha i.
“Wrth i mi eistedd yno, yn ceisio dod i delerau â’r hyn roeddwn i newydd ei glywed, a chael y gitâr yn barod ar gyfer y llwyfan, daeth dyn i mewn, yn edrych fel cymeriad o B-movie, a sibrwd yn llechwraidd ein bod ni wedi cyfarfod o’r blaen mewn digwyddiad Plaid Cymru yng Nghaergybi.
“Doeddwn i erioed wedi ei weld o’r blaen, ac ni welais ef byth wedyn.
“Dywedodd mai ychydig iawn o amser oedd ganddo, felly roedd e am ddod yn syth at y pwynt. ‘Mae gennym gynllun i lofruddio’r tywysog, a chi yw’r dyn iawn i’n helpu’.
“Wnes i ddim gadael iddo orffen ei frawddeg ond dywedais wrtho i’w heglu hi o ‘na, gan ychwanegu nad oeddwn am ei weld byth eto.”
Seren rygbi yn talu dirwy carchar Dafydd Iwan
Dechreuodd Dafydd Iwan ei yrfa gerddorol ganol y 1960au, a chyn diwedd y degawd roedd yn denu cryn dipyn o sylw ar y teledu am ei gerddoriaeth a’i weithgareddau gwleidyddol, ac yntau’n aelod blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith.
Cafodd ei garcharu yn 1970 am wrthod talu dirwyon am ddifrodi arwyddion ffordd uniaith Saesneg fel rhan o’r frwydr dros hawliau iaith Gymraeg.
Yn ystod ei gyfnod cyntaf yn y carchar yng Nghaerdydd, cyfarfu â Cayo Evans, arweinydd y grŵp gwleidyddol eithafol, y Free Wales Army, weithredodd fel ei “warchodwr yn y carchar”.
Roedd Cayo Evans, o Silian ger Llanbedr Pont Steffan, yn un o dri dyn gafwyd yn euog o gynllwynio i achosi ffrwydradau a throseddau trefn gyhoeddus eraill yn dilyn achos llys hir.
Cafodd ei garcharu gan y barnwr yn Llys y Goron Abertawe ar yr un diwrnod ag y cafodd Tywysog Charles ei arwisgo’n Dywysog Cymru.
“Cafodd Julian Cayo Evans ddedfryd o 15 mis felly roedd yn dal yng Ngharchar Caerdydd pan gyrhaeddais i,” meddai Dafydd Iwan.
“Roedd Cayo yn gymeriad lliwgar ac roedd ganddo briodoleddau arweinydd naturiol, ac yn ystod ei arhosiad yn y carchar, roedd wedi dod yn ffefryn pendant gyda’r carcharorion eraill.
“Cyn bo hir, cymerodd y rôl o fod yn warcheidwad answyddogol i mi, a phob dydd byddai’n dod â chopi o’r Western Mail i mi er mwyn i mi allu cadw i fyny â’r holl brotestiadau a gynlluniwyd i gyd-fynd â’m carchariad.”
Cafodd Dafydd Iwan ei garcharu am yr eildro, ond cafodd y ddirwy ei thalu ar ei ran gan rywun oedd yn anhysbys ar y pryd, ond mae’n datgelu yn y llyfr mai’r chwaraewr rygbi Ray Gravell oedd y person hwnnw.
Roedd chwaraewr rhyngwladol Llanelli a Chymru’n ffan mawr o Dafydd Iwan, yn canu ei ganeuon yn gyson yn yr ystafell wisgo, a daethon nhw’n ffrindiau mawr.
Yn ôl Dafydd Iwan, ar ôl marwolaeth annhymig Ray Gravell fe ddywedodd Mari, gwraig Ray Gravell, wrtho ei fod wedi ei rhybuddio na ddylai fyth ddatgelu’r gwir am dalu’r ddirwy tan ar ôl iddo farw.
“Roedd y ffaith fy mod wedi fy ngharcharu wedi cael cymaint o effaith arno fel na allai oddef y syniad ohonof yn y carchar, a fy ngwraig a’m plant gartref hebddo i.
“Felly mi benderfynodd dalu fy nirwy, ac roedd e ar y ffôn am oriau, yn gofyn sut y gellid gwneud hyn, a llwyddo yn y diwedd i gael yr arian wedi’i anfon i Walton.
“A dyna sut y deuthum i gael fy rhyddhau yn erbyn fy nymuniad!
“Roedd hynny mor nodweddiadol o Ray, dyn nad oedd byth yn cuddio ei deimladau.
“Roeddwn eisiau diolch iddo a thawelu ei ofnau a dweud nad oedd ots gen i fynd i’r carchar o gwbl.
“Yr annwyl, angerddol Ray Gravell – Cymro digymar.”