Cafodd dau o bobol eu harestio ar ôl i graffiti gael ei baentio ar adeilad y BBC yng Nghaerdydd yn ystod protest ynghylch Gaza ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 28).
Daw hyn ar ôl i filoedd o bobol fod yn gorymdeithio yn y brifddinas i alw am gadoediad ar unwaith.
Cafodd un protestiwr ei arestio ar ôl i’r gair ‘Liars’ gael ei baentio mewn coch ar yr adeilad yn y Sgwâr Canolog.
Cafodd un arall, sy’n ddigartref, ei arestio yn ystod yr orymdaith wrth i flocâd gael ei gynnal ar y strydoedd.
Fe wnaeth protestwyr ddal i fyny enwau’r 7,028 o Balestiniaid sydd wedi’u lladd ers i Israel ddechrau bomio Gaza bythefnos yn ôl.
Fe fu’r protestwyr yn galw ar lywodraethau a’r cyfryngau i feirniadu Israel.
Yn ôl Dr Joey Whitfield, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn aelod o’r undeb addysg UCU, mae “hil-laddiad” ar y gweill yn Gaza, a does “dim cyfiawnhad” dros hynny, meddai.
“Rhaid i undebwyr llafur a gweithwyr godi eu lleisiau a dweud ‘nid yn ein henw ni’.”