Cyn bod yr Hydref hwn yn dirwyn i ben, rhaid dymuno ‘Pen-blwydd Hapus’ i Friedrich! Wythnosau’n yn hwyr, ond gwell hwyr na hwyrach am wn i. Ar Hydref 15, 1844 yn Röcken yn yr Almaen, ganed Friedrich Wilhelm Nietzsche (m. 1900).

Dw i’n gwbl argyhoeddedig mai llesol i’r Cristion yw darllen gwaith y mwyaf huawdl o’r anffyddwyr mawr. Dyna’n union pam nad oes wirioneddol rhaid i ni ddarllen gwaith Samuel Harris, Richard Dawkins, Daniel Dennett, ac yn sicr ddim Christopher Hitchins! Gellid darllen cynnyrch y rhain er diddordeb; ond nid os ydym am wybod beth yw anffyddiaeth go iawn – anffyddiaeth â dannedd arni; anffyddiaeth â min iddi. Os felly, gwell o lawer fuasai darllen Bertrand Russell efallai, Albert Camus o bosib, ond Nietzche yn sicr!

Mae anffyddwyr ‘pop’ ein cyfnod yn gyson annog pobol i ymwrthod â chrefydd, i wthio o’r neilltu’r hen ofergoeledd gwenwynig am Dduw creadigol a gwaredigol. Wrth ddarllen eu gwaith, mae’n amlwg fod y tri ohonyn nhw yn credu y buasai diwylliant y Gorllewin, heb Dduw, yn parhau heb newid i bob amcan a chyfrif. Fe ellid, medden nhw, gadw’r golau er colli’r haul. Nid ydyn nhw yn wir awyddus i ddilyn llinyn eu syniadaeth i’w ben draw synhwyrol. Heb Dduw, heb grefydd, medden nhw, buasai terfysgaeth a ffwndamentaliaeth yn diflannu, buasai pawb yn gweld a chydnabod ei ffolineb, ac yn derbyn mai esblygiad yn hytrach na Duw creadigol yw gwraidd a bonyn pwy a beth ydym fel pobol.

Buasai Nietzsche yn gwrido! Nid anffyddiaeth go iawn mo hyn. Chwarae plant ydyw. Bas ydyw, ond dyfroedd diogel yw’r dyfroedd bas. Mynnodd Nietzsche wthio i’r dwfn, ildiodd i lanw mawr ei ddamcaniaeth. Pan gollir ffydd yn Nuw, meddai, collir pob peth arall hefyd, collid y moesoldeb sydd wrth wraidd ein diwylliant.

Christianity is a system, a consistently thought-out and complete view of things. If one breaks out of it a fundamental idea – the belief in God – one thereby breaks the whole thing to pieces: one has nothing of any consequence left in one’s hands.

Nid wyf am awgrymu bod yn rhaid bod yn grefyddol i fod yn foesol. Perthyn moesoldeb (ac anfoesoldeb) i grefyddwr ac anffyddiwr fel ei gilydd. Ond heb ffydd yn Nuw, mae seiliau moesoldeb ein diwylliant yn gwegian – daw geiriau fel dyletswydd, gonestrwydd, teyrngarwch, ymddiriedaeth yn llai egniol, llai ystyrlon – ac ar y pethau hyn y cafodd y diwylliant Gorllewinol ei adeiladu, ac y caiff ei adeiladu. Hebddyn nhw, buasai’r cyfan oll yn dechrau erydu; mae’r peth yn digwydd nawr, a da yw cofio nad oes yn rhaid i ddiwylliant farw gyda bloedd sydyn; fe all farw gydag ochenaid hir, dawel.

Anffyddiaeth go iawn oedd anffyddiaeth Nietzsche, anffyddiaeth tu hwnt yn llwyr i Harris, Hitchins, Dennett, Dawkins a’u tebyg, gan na fuasai’r anffyddiaeth yma byth yn gwerthu llyfrau! Anffyddiaeth onest, synhwyrol ydoedd – ynddi cawn gipolwg ar wir oblygiadau gwir anffyddiaeth. Wedi gollwng gafael ar Dduw, “one has nothing of any consequence left in one’s hands“.