Mae artist o Abertawe wedi addasu ei arddangosfa mewn ymateb i’r sefyllfa enbyd yn Gaza…

Albergo a Chaneuon Eraill yw enw arddangosfa’r artist Euros Rowlands yn Oriel Elysium, Abertawe, sy’n cynnwys gwaith mae wedi’i greu ers 2020.

Mae ganddo gyfres o luniau o dan y teitl ‘O Dir Trugarog’, a gafodd eu paentio ganddo yn deyrnged i bobol Aleppo, Syria, ar ôl y cyrch bomio erchyll ar y ddinas yn 2016.