Mae Llywodraeth Cymru’n wynebu’r dasg heriol o lenwi bwlch maint £600 miliwn yn ei chyllideb erbyn mis Ebrill, ac wedi misoedd o ansicrwydd daeth y cyhoeddiad yn datgelu lle’n union fydd y fwyell yn syrthio.
Tra bydd cyllidebau’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweld cynnydd £425 miliwn a’r Adran Newid Hinsawdd yn cynyddu £82.6 miliwn, gorfod bodloni ar lai sy’n wynebu’r adrannau eraill.