Duw yn unig a ŵyr pa erchylltra newydd fydd wedi digwydd yn Gaza neu Israel erbyn cyhoeddi’r golofn hon. Y gwir ydi, mae’n anodd tu hwnt i ni o fan hyn lwyr ddirnad a deall yr hyn sy’n digwydd yno. Niwl rhyfel ydi’r enw ar hyn, a gymhlethir gan gamwybodaeth a rhagfarn ddofn ar y ddwy ochr.