Mae’r fuddugoliaeth fendigedig dros Croatia’r wythnos ddiwethaf wedi prynu ychydig mwy o amser i Robert Page. Mwy nag un sylwebydd wedi ymddiheuro yn gyhoeddus i reolwr Cymru ar ôl cwestiynu ei safle yn yr wythnosau yn arwain at y gêm.

Mae’n rhywbeth arferol i reolwr Cymru fod o dan bwysau gan y cefnogwyr a’r cyfryngau. Wrth feddwl yn ôl, mae bron bob rheolwr cenedlaethol ers 30 mlynedd wedi dioddef ymgyrch fawr gyhoeddus yn galw am ei ddiswyddo.