Rhan o weledigaeth menter newydd yw dod o hyd i lyfrau “sydd â’r potensial ar gyfer creu drama lwyfan neu ffilm”.

Dyna ddywed Rheolwr Gyfarwyddwr Atebol, y cwmni cyhoeddi sydd newydd sefydlu gwasgnod mewnol Sebra. Bydd cyhoeddiadau’r gwasgnod ‘newydd a chyffrous’ yn cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol i oedolion.