“Mae’n dda cyrraedd pwynt ble dw i ddim yn teimlo’n negyddol am yr iaith…”
Minas yw enw project cynhyrchydd/cerddor Groegaidd/Cymreig sydd y tu ôl i senglau poblogaidd fel ‘Payday’ a ‘Foreign’.
Gyda’i albwm gyntaf, All My Love Has Failed Me, wedi’i gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg eleni, a Minas yn barod i ymuno ar daith gyda’r band Benefits, mae ei sengl ddiweddaraf yn glanio yn ystod cyfnod cyffrous.
Dyma’i sengl gyntaf yn y Gymraeg ac un a oedd yn broses ychydig yn wahanol ac anoddach i’r arfer, gan iddo ailafael yn Iaith y Nefoedd yn eithaf diweddar, a hynny ar ôl tua chwe blynedd o beidio siarad Cymraeg.
Gwerthfawrogiad o’i hunaniaeth Gymreig yw ei gân ‘Ddoe’ – rhywbeth y mae o wedi dod i’w ddeall yn well yn ddiweddar.
Teithio gyda’r syrcas
Fe gafodd James Minas ei eni i fyd rhyfeddol y syrcas, a bu’n teithio’r wlad gyda’i rieni a’r criw, gan symud o ysgol i ysgol.
“Ges i fy ngeni yn Athens ond wnes i dyfu i fyny’n teithio efo’r syrcas NoFit State,” eglura’r cerddor.
“Roedd mam yn gweithio fel Rheolwr Digwyddiadau ac roedd dad ar y byrddau [cyfarwyddwyr oedd yn rhedeg y syrcas], felly roedden ni jest yn rhedeg o gwmpas gyda’r sioe pan oedd hi’n teithio.”
“Roedden ni’n byw yng Nghymru cyn hynny ond yn symud o gwmpas llawer yng Nghaerdydd ac ardaloedd fel yna tan o’n i’n tua 12 oed.
“Ro’n i’n mynd i’r ysgol ond byddai angen bod mewn pob math o ysgolion ar y daith.”
Ymgartrefodd ei deulu yn y Cymoedd erbyn yr oedd James yn 12 oed, ond mae o’n parhau i geisio darganfod hanes ei deulu Groegaidd.
“Ro’n i yn Athens tair wythnos yn ôl a dw i’n trio mynd yn ôl unwaith y flwyddyn achos dw i’n trio cysylltu efo fy ngwreiddiau.
“Mae gen i dal teulu yno ond dw i ddim yn nabod llawer ohonyn nhw eto.
“Fi’n trio cwrdd â nhw pan fi’n mynd draw.”
Perthynas “eithaf gwael” gyda’r iaith
O’i gyfnod yn yr ysgol daeth perthynas gymhleth James gyda’r iaith Gymraeg. Fel un nad oedd yn hoff o’r ysgol, roedd o’n tueddu i gysylltu’r profiadau hynny gyda’r iaith.
“Er es i ysgol Gymraeg, roedd fy mherthynas gyda’r iaith yn eithaf gwael.
“Roeddwn yn cysylltu’r iaith gyda’r ysgol – cyfnod trawmatig yn fy mywyd – ac felly wnes i roi’r gorau i’w siarad yn gyfan gwbl am rai blynyddoedd.
“Wnes i symud i ysgol ble roedden nhw’n siarad Saesneg gan fod ganddyn nhw adran cerddoriaeth well, ac wedyn wnes i symud i’r brifysgol.
“Dydy fy rhieni ddim yn siarad Cymraeg chwaith felly doeddwn i jest ddim yn siarad e am amser hir – tua chwe blynedd.”
Llithro yn ôl i mewn i’r Gymraeg
Ar ôl cyfarfod ei gariad, y gantores Mali Hâf, llithrodd y Gymraeg yn ôl i mewn i fywyd pob dydd James a daeth y cyfle i sgrifennu cân yn Iaith y Nefoedd. Dechreuodd weithio gyda label Recordiau Libertino ar gyfer ei albwm gyntaf yn 2021, ac wrth dynnu coes gyda Gruff Owen, sy’n rhedeg y label, daeth y syniad o sgrifennu yn y Gymraeg.
“Roedd Gruff jest yn jocian gyda fi yn dweud: ‘Dylai ti wneud sengl yn y Gymraeg’, ond heb wybod fy mod i’n siarad Cymraeg.
“Ar ôl i Gruff ddweud hynna, ro’n i’n meddwl y byddai e’n bach o sialens i fi.
“Wedyn es i i’r Eisteddfod gyda fy nghariad, Mali Hâf, ac roedd Ynyr o Lŵp S4C yna a dywedodd e os byddwn i’n gwneud cân yn y Gymraeg, byddai e’n hapus i wneud fideo efo fi.
“Wnes i feddwl: ‘May as well trio!’”
A dyna oedd man cychwyn ei sengl ddiweddaraf.
“Mae ‘Ddoe’ basically am pan ro’n i’n cael trafferth efo dicter am lawer o flynyddoedd.
“Mae’n edrych i mewn i hynna a sut mae’r emosiwn rage yn rili dinistriol.
“Mae popeth fi’n sgrifennu fel dyddiadur neu bron fel cyfaddefiad.
“Wnes i eistedd lawr a sgrifennu fel dw i fel arfer yn gwneud, ond yn y Gymraeg, a dyma oedd yn dod mas achos ro’n i bach yn grac ar y dydd ro’n i’n sgrifennu.”
Roedd cyfansoddi’r gân yn brofiad ychydig yn anoddach na’r arfer wrth i James ddod i arfer gydag sgrifennu yn y Gymraeg eto, ond mae’n barod i roi siawns arall arni yn y dyfodol.
“Roedd e’n anodd. Ond dw i’n meddwl os ydw i’n gwneud albwm arall, bydd yna gân Cymraeg arno fe.
“Mae’n rhoi rhywbeth gwahanol i’r albwm ac i fi.
“Wnes i joio’r broses ond dw i ddim eisiau gorfodi unrhyw beth.
“Ar ôl sgrifennu e’, roedd rhaid eistedd lawr ac edrych ar sut fi wedi sgrifennu e’, ac os oedd y treiglo’n iawn a phethau fel yna.
“Ac ar ôl newid e’ i fod yn Gymraeg proper, ro’n i dal yn hoffi e’, ond mae e’ wedi newid lot o sut oedd e’n swnio o’r blaen.
“Fi heb arfer gyda hynna achos dw i’n sgrifennu cân a dyna fe – mae’n naturiol ac yn raw.
“Ond dw i’n meddwl dw i angen dysgu mwy o Gymraeg fel bod o’n gallu bod yn fwy naturiol achos roedd e’n anodd sgrifennu e’, newid e’ a hoffi e’.”
Fe wnaeth James hefyd gydweithio gyda rhaglen Lŵp S4C er mwyn creu fideo i gyd-fynd â ‘Ddoe’ ac mae ar gael i’w wylio ar YouTube.
Yr iaith yn “cysylltu ni gyda’n diwylliant”
Ar ôl rhyddhau’r sengl a siarad yr iaith eto, mae James yn teimlo ei fod yn deall ei hunaniaeth Gymreig yn well.
“Dw i’n falch o ddweud nawr fy mod wedi bod yn siarad mwy o Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, yn rhannol oherwydd dw i o gwmpas mwy o siaradwyr Cymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn dod yn ôl yn araf ac mae’n dda cyrraedd pwynt ble dw i ddim yn teimlo’n negyddol am yr iaith.
“Ac mae’r iaith yn dod yn ôl yn gyflymach nag o’n i wedi meddwl y byddai e’.
“Mae’r ffaith fod y Gymraeg yn cychwyn tyfu eto yn rhywbeth arbennig iawn.
“Dw i’n meddwl fy mod i’n deall fy hunaniaeth Gymreig nawr fy mod i wedi tyfu fyny ychydig.
“Mae’n ein cysylltu ni gyda’n diwylliant ni’n hunain, un sydd wedi’i bygwth sawl gwaith dros y blynyddoedd.
“Felly, mae’r gân yma, [‘Ddoe’], yn rhyw fath o werthfawrogiad o fy hunaniaeth Gymreig ac yn diolch i’r rheiny sydd wedi gwneud i mi ddeall pwysigrwydd yr iaith.”
Gigs egnïol yng Nghymru a thu hwnt
Gyda James ar y meic ac yn cael cwmni DJ Don Phythian, bass, synth a drymiau, mae gigs Minas i’w gweld yn llawn egni. Byddan nhw’n mynd â’r egni hwnnw ar daith gyda’r band Benefits draw i Lundain, Nottingham a Bryste. Ond dydyn nhw ddim am anghofio am Gymru Fach, meddai James.
“Roedden ni’n chwarae fel tri ond ni’n bump nawr ac mae’r sŵn yn fwy llawn nawr a dw i’n hapus efo fe – ni’n hoffi’r egni!
“Rydyn ni’n brysur iawn gyda gigs ond dyna’r oedden ni eisiau.
“Ond fi ddim eisiau bod yn artist sy’n cael gigs yn Lloegr ac yn anghofio am Gymru.
“Holl bwynt Minas yw bod yn authentic a bod yn agored a pheidio cuddio unrhyw beth, felly mae popeth rydyn ni’n gwneud yn Gymreig – falle ddim yn yr iaith – achos dyna le rydyn ni’n dod a dyna beth rydyn ni wedi byw.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cario hynny ymlaen trwy ein holl yrfa.”