Mae Eädyth yn canu a sacsoffonydd yn rapio ar albwm newydd gan griw o gerddorion jazz uchel eu parch… 

Cwmwl Tystion II/Riot! yw ail albwm Cwmwl Tystion, sef y project jazz sy’n cael ei arwain gan Tomos Williams, y cyfansoddwr a thrwmpedwr o Aberystwyth.

Bwriad yr ail gasgliad yw canolbwyntio ar hanes tywyll Cymru gyda therfysgoedd a hiliaeth, a chwestiynu ein hunaniaeth ni fel Cymry.