Bu’r ddynes 55 oed o Borthaethwy yn bennaeth ar ysgolion uwchradd yng Ngwynedd am ddegawd a mwy cyn gorfod rhoi’r gorau i’w swydd oherwydd effaith y menopos.

Er mwyn sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael am y cyflwr a’i effaith yn y gweithle, mi wnaeth Alwen greu polisi menopos sydd wedi cael ei rannu mewn sawl ysgol.

Mae hi nawr yn gobeithio sefydlu caffis menopos ar draws Ynys Môn er mwyn i bobol allu dod ynghyd i helpu ei gilydd drwy gyfnod heriol…

Sut brofiad oedd bod yn bennaeth ysgol yn mynd trwy’r menopos?

Ro’n i’n mynd yn ôl ac ymlaen at y meddyg am gyfnod go hir o amser yn cwyno fy mod i methu cysgu, yn anghofio pethau, yn cael andros o drafferth rhoi brawddeg at ei gilydd, ac yn cael pyliau poeth yn y gwaith a pharanoia fod pawb yn gweld fy mod i’n mynd yn chwys domen. Roedd y meddyg yn dweud pob tro mai pwysau gwaith a straen yn ymwneud efo fy swydd oedd o. Ond ro’n i’n gwybod fod o’n rhywbeth mwy na hynny, felly dyna pryd wnes i ddechrau ymchwilio fy hun a sylweddoli fod nifer o’r symptomau oedd gen i yn pwyntio tuag at y ffaith fy mod i’n mynd trwy peri-menopos ac yna’r menopos.

Trwy ymchwilio wnes i sylweddoli fod angen codi ymwybyddiaeth, yn enwedig mewn gweithleoedd. Mae’r canran o ferched sy’n rhoi’r gorau i’w swyddi yn uchel mewn perthynas â menopos, yn enwedig mewn swyddi rheolaethol. Ro’n i’n teimlo fel nad oeddwn i’n gallu gweithredu fel pennaeth effeithlon. Doeddwn i ddim ar fy ngorau a doeddwn i methu gwneud cyfiawnder â’r swydd.

Pam aethoch chi ati i lunio’r polisi menopos?

Ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bennaeth yng Ngwynedd, mi wnes i rywfaint o waith yn Sir Conwy ac y benodol yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst. Roedd y pennaeth yn fan yno yn eithriadol o gefnogol o godi ymwybyddiaeth ynghylch y peri-menpos a menopos, a gofynnodd a fyswn i’n gwneud hyfforddiant staff. Mi wnes i gynnal hwnnw ar gyfer pob aelod o staff yn cyffwrdd ar bethau fel pa mor bwysig ydy bwyta’n iach ac ymarfer corff yn y cyfnod lle mae rhywun yn mynd trwy menopos, a hefyd y math o symptomau mae pobol yn eu cael yn ystod y cyfnodau hyn.

Yn dilyn o hynny, gofynnodd y pennaeth imi sgrifennu polisi menopos i’r ysgol a gafodd ei rannu wedyn efo ysgolion eraill. Roedd y polisi yn gosod allan be oedd cyfrifoldebau pawb fel y llywodraethwyr, athrawon, y pennaeth, a be oedd y trefniadau mewn lle yn yr ysgol ar gyfer cefnogi staff oedd yn mynd trwy menopos fel darparu mynediad hawdd i doiledau ac yn y blaen. Roedd y polisi’n cyffwrdd ar y symptomau hefyd.

Ar ôl cwblhau hwnnw, cafodd y polisi ei fabwysiadu gan y corff llywodraethu a’i lansio i’r staff i gyd cyn i’r pennaeth ei rannu gydag ysgolion eraill fel bod ganddyn nhw fodel o bolisi i’w ddilyn.

Be’ mae rhywun yn darganfod ydy nad oes gan nifer o fannau gwaith bolisi mewn lle. Ro’n i’n meddwl fod Ysgol Dyffryn Conwy yn flaenllaw iawn yn darparu polisi.

Beth yw eich gwaith nawr gydag elusen Age Cymru?

Dw i newydd gael fy mhenodi yn Swyddog Cefnogi Hybiau Cymunedol ar Ynys Môn. Yn Strategaeth Heneiddio’n Dda Ynys Môn, mae yna bwyslais mawr ar bwysigrwydd hybiau cymunedol o safbwynt lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd y mae pobol yn teimlo o gymdeithas. Felly ar Ynys Môn, mae yna hybiau cymunedol mewn nifer sylweddol o ardaloedd ac erbyn hyn, dyhead am ddatblygu mwy o hybiau. Mae tystiolaeth yn dangos erbyn hyn fod unigrwydd a’i effaith o ar iechyd yn sylweddol iawn.

Fy ngwaith i ydy mynd o amgylch yr hybiau yma a bod yn gymorth iddyn nhw, a chefnogi nhw i ganfod darparwyr i gynnal gwahanol weithgareddau.

Oes gennych chi fwriad i ddefnyddio’r hybiau er mwyn codi ymwybyddiaeth am y peri-menopos a’r menopos?

Wnes i gynnal noson o addysg am y menopos ym mis Tachwedd 2021 yn Llanfairpwll a doeddwn i ddim yn siŵr iawn faint o bobol fysa’n troi i fyny ond roedd y lle’n orlawn. Dw i’n trefnu noson arall o addysg am menopos fis nesaf yn M-Sparc yng Ngaerwen hefyd.

Ond dw i’n bwriadu sefydlu Caffis Menopos yn yr hybiau ar draws yr ynys yn y pen draw. Mae nifer o’r hybiau yma ar yr ynys yn darparu caffis yn barod, felly ro’n i’n meddwl pam ddim agor y caffis yma yn gaffis menopos? Byddai hyn yn fwy lleol i bobol allu gwneud eu rhwydweithiau bach eu hunain a chefnogi ei gilydd.

Beth yw eich atgof cynta’?

Ges i fy magu am y blynyddoedd cyntaf mewn pentref o’r enw Sychdyn yn Sir y Fflint, sydd tua tair milltir o’r Wyddgrug. Dw i’n cofio mynd i’r cylch meithrin yno am y tro cyntaf a neb yn siarad Cymraeg a finnau ddim yn siarad dim Saesneg. Mae gen i gof o eistedd o dan y bwrdd yn y cylch meithrin gan nad oeddwn i’n deall neb yn siarad. Roedd mam yn dweud pan ddaeth hi i fy ôl, doedd hi methu deall pam fy mod i o dan y bwrdd a ddim yn cymdeithasu.

Beth yw eich ofn mwya’?

Ynni niwclear a beth yw goblygiadau hwnna yn y tymor hir. Ar Ynys Môn, mae’r Wylfa wedi cau a llawer wedi colli gwaith oherwydd hynny. Ond yn ôl ar yr agenda rŵan mae yna sôn eto am sefydlu gorsaf niwclear yn yr Wylfa. Dw i’n deall o safbwynt gwaith, ond fy ofn mwyaf i ydy be sy’n digwydd i’r gwaddol [ymbelydrol] sydd ar ei ôl a beth ydy goblygiadau hynny.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Wnes i ddechrau nofio gwyllt rhyw ddwy flynedd yn ôl rŵan yn sgîl y noson menopos yn Llanfairpwll ble wnaethon ni sylweddoli fod nifer ohonom yn mynd trwy’r un peth. Wnaethon ni sefydlu grŵp nofio gwyllt y Titws ar Ynys Môn ac rydan ni’n griw sy’n mynd i nofio efo ein gilydd yn rheolaidd, haf neu aeaf.

Dw i’n meddwl bod o wedi gwneud byd o les i mi achos os ydy rhywun yn gallu diodddef yr oerni yng nghanol Ionawr, yna mae rhywun yn gallu delio efo unrhyw beth sy’n dod i’w cyfarfod nhw. Mae o wedi bod yn gymorth mawr i gadw’n heini.

Beth sy’n eich gwylltio?

Annhegwch cymdeithasol. Mae o’n fy ngwylltio i fod yna bobol yn byw yng nghanol gormodedd a phobol eraill methu dod â dau ben llinyn ynghyd.

A hiliaeth hefyd – agwedd pobol tuag at bobol o hil wahanol – mae hwnnw yn fy ngwylltio i.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?

Byswn i’n gwahodd T H Parry Williams oherwydd fo ydy fy hoff fardd. Wnes i ddotio at ei waith o yn yr ysgol ac wedyn es i ymlaen i wneud gradd yn y Gymraeg a ro’n i wrth fy modd yn gwrando ar ei lais o. Dw i hefyd yn ffan fawr o Bryn Terfel ac yn ei gofio’n cystadlu mewn Eisteddfodau bychan ac yn canu cerdd dant. Dw i’n meddwl fod ganddo’r llais mwyaf anfarwol a byswn i’n licio cael pryd o fwyd efo fo. Fy ngwestai arall bysa Gwynfor Evans oherwydd yr aberth wnaeth o dros ei gyd-Gymry a’r ffaith ei fod o wedi ymprydio fel ein bod ni efo sianel Cymraeg. Byswn i wrth fy modd yn cael y tri yna o gwmpas bwrdd i gael trafod efo nhw.

… a beth fyddai’r wledd?

Dw i’n ffan mawr o fwyd Eidalaidd felly byswn i’n cael unrhyw beth Eidalaidd i fwyta, neu stecen o gîg eidion Cymreig efo chips a phys.

Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?

Efallai nid y sws orau ond fy claim to fame i oedd cael sws gan Rhys Ifans. Roedden ni yn yr ysgol efo ein gilydd ac roedden ni’n rhan o gynhyrchiad yn Ysgol Maes Garmon. Felly roedd cymeriad Rhys yn gorfod rhoi sws i rywun wrth basio ac mi ges i sws ganddo ar fy moch. Roedd o wedi cael ei orchuddio mewn spray lliw arian felly roedd marc y sws arian ar fy moch, a dw i’n cofio mynd adref a thrio rhoi darn o bapur toiled arno fo i drio cael cofnod o’r peth! Pwy fysa’n meddwl y bysa fo mor enwog erbyn hyn!

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Champion.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwyaf o embaras i chi?

Ro’n i’n gwneud noson i ddarpar ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle felly disgyblion, ac yng nghanol fy sgwrs i efo’r rheini a’r disgyblion mi wnaeth un o fy crowns ddisgyn allan a fflio trwy’r gynulleidfa rhywsut. Achos bod crowns yn bethau mor ddrud, dw i’n cofio bod ar fy mhedwar yn ymbalfalu am y crown yn hytrach na siarad efo’r gynulleidfa!

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Yn Sorrento flynyddoedd yn ôl. Dw i’n hoffi’r Eidal, ei phobol a’u ffasiwn nhw, y bwyd a’r golygfeydd. Mae o’n rhywle byswn i’n bendant yn mynd yn ôl iddo.

Hoff air?

Cwtsh.

Hoff ddiod?

Dw i’n ddigon hapus efo Coke neu lemonêd.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Dw i wedi mwynhau darllen llyfr Alun Ffred, Gwynt y Dwyrain a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, yn ofnadwy.

Dw i hefyd yn mwynhau gwaith Marlyn Samuel, Mared Lewis a Manon Steffan Ros.

Hoff albwm?

Unrhyw beth gan Bryn Fôn! Dw i’n ffan mawr ohono ac mae ei holl albymau’n cael eu chwarae’n ddiflino. Ro’n i’n eithriadol o siomedig pan ddaeth y newyddion na fydd yna fwy o gigs ond dw i’n dal i fyw mewn gobaith y bydd o’n gwneud ambell ymddangosiad arall.

Hoff wisg ffansi?

Buon ni’n dathlu pen-blwydd fy nhad yn 80 yn ddiweddar felly fe aethon ni fel teulu i Ben Llŷn, ac ar y nos Sadwrn roedd rhaid i bawb wisgo i fyny. Wnes i wisgo i fyny fel hipi gan mai yn y 1960au ges i fy ngeni.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Mae gen i ofn adar ac unrhyw beth sydd efo adenydd. Roedd fy nain yn dioddef o’r un ofn hefyd.