Mae Caerdydd wedi sicrhau statws arbennig fel Dinas sy’n Dda i Blant gan UNICEF.

Hi yw’r ddinas gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn y statws sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gyda’r nod o ddathlu dinasoedd lle mae hawliau plant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn eu polisïau a’u gwasanaethau.

Mae’r teitl yn cydnabod gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Gyngor Caerdydd ers 2017, pan ymunon nhw â rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant UNICEF.

Ar ddechrau eu cyfnod gyda’r rhaglen, mae’n rhaid i ddinasoedd osod cynllun gweithredu er mwyn gweithio tuag at y teitl dros gyfnod o dair i bum mlynedd.

Mae 73% o ysgolion y brifddinas yn rhan o’r rhaglen erbyn hyn, wrth iddyn nhw anelu i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu plant a phobol ifanc.

Parchu hawliau plant

Dywed y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, mai eu nod yw sicrhau bod pob plentyn yn “teimlo’n ddiogel, yn cael ei glywed, yn cael ei feithrin ac yn gallu ffynnu”.

“Sylfaen y newid hwn fu datblygu diwylliant sy’n parchu hawliau ar draws y cyngor a phartneriaid ar draws y ddinas i sicrhau bod ein staff yn wybodus ac yn hyderus ynghylch hawliau a’u hymarfer,” meddai.

“Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan bolisi sydd wedi grymuso plant a phobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sydd o bwys iddyn nhw.”

Mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio gyda sefydliadau ledled y ddinas i roi strategaethau sy’n cefnogi hawliau plant a phobol ifanc ar waith.

Fel rhan o’r gwaith ar hawliau plant, mae dros 5,500 aelod o’r Cyngor a’u partneriaid wedi cwblhau hyfforddiant hawliau plant, tra bod 3,595 o bobol ifanc wedi derbyn hyfforddiant ar eu hawliau.

Dywed Huw Thomas fod llu o gyfleoedd i blant ddylanwadu ar bolisïau’r ddinas.

‘Cynnydd, nid perffeithrwydd’

Er bod llawer o waith wedi’i wneud er mwyn sicrhau’r statws, dywed UNICEF mai “cydnabod cynnydd, nid perffeithrwydd” mae’r statws.

Yn ôl Jon Sparkes, Prif Weithredwr Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar gyfer UNICEF, mae’r teitl yn dyst i ymroddiad y Cyngor a’u partneriaid.

“Mae hefyd yn nodi addewid i blant a phobl ifanc Caerdydd – y bydd y cyngor yn parhau i wneud yn siŵr bod lleisiau plant wrth galon penderfyniadau lleol,” meddai.

Er mwyn dathlu’r teitl, mae tua 300 o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Gŵyl Hawliau heddiw (dydd Gwener, Hydref 27).