Mae Uno’r Undeb wedi cadarnhau heddiw (dydd Gwener, Hydref 27) fod cytundeb newydd yn ei le ar ran gweithwyr Cyngor Wrecsam, ar ôl streic sydd wedi para saith wythnos.

Mae gweithwyr Cyngor Wrecsam wedi bod ar streic ers dechrau mis Medi, felly, yn sgil trafodaethau cenedlaethol dros dâl rhwng Uno’r Undeb a’r Cyngor Sir.

Bu’r effaith yn glir yn Wrecsam, wrth i fagiau sbwriel lenwi’r strydoedd.

“Mae’n nesáu at fod yn debyg i ‘Gaeaf anfodlonrwydd’ yn Lerpwl ddiwedd yr 1970au,” meddai un o’r trigolion lleol wrth golwg360.

“Mae’r lle’n llanast.”

Ond wrth i’r tywydd droi’n oer, daeth heriau newydd hefyd, wrth i Gyngor Wrecsam rybuddio y gallai’r casgliadau sbwriel gael eu heffeithio ymhellach pe bai angen i staff gael eu hailgyfeirio at glirio a graeanu’r ffyrdd.

Bu Carrie Harper, cynghorydd Plaid Cymru, yn codi cwestiynau ynglŷn a sicrhau bod y gweithwyr yn cael yr hyfforddiant priodol i gael gwneud y gwaith yma’n effeithiol.

Yn y cyfamser, trigolion a busnesau ar hyd a lled ddinas-sir Wrecsam fu’n byw hefo’r goblygiadau, ac mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn siarad â golwg360.

Bar Sgwâr Tŷ Pawb

Mae Simon Morris, perchennog Bar Sgwâr yn Nhŷ Pawb, yn awyddus i dynnu sylw at effaith y streic ar fusnesau bach lleol.

“Er fy mod wrth gwrs yn cefnogol o’r gweithwyr a’u hawl nhw i streicio, dw i ddim yn meddwl fod pawb wedi sylweddoli’r effaith negyddol mae hyn wedi’i chael ar fusnesau bach lleol,” meddai.

“Mae Bar Sgwâr yn amlwg yn far event-led, ac ym mis Medi a Hydref y peth mawr i ni oedd Cwpan Rygbi’r Byd.

“Ond UNITE yw undeb lot fawr o weithwyr cyngor, gan gynnwys gofalwyr, a nhw sy’n agor ac yn cau yr adeilad.

“Maen nhw wedi llwydo i gadw’r adeilad [Tŷ Pawb] yn agored yn ystod y dydd, mae’n debyg hefo gweithwyr sydd ddim yn aelodau o undeb UNITE, ond yn y nos mae’r lle yn cau.

“Ac felly, er enghraifft, i ni, allan o’r pedair gêm sydd wedi bod, dim ond un fyddwn ni wedi gallu ei dangos yn y bar. Ac roedden ni’n dibynnu ar y cyllid hwnnw fysen ni wedi gwneud trwy’r bar, i’r busnes.

“Cyn belled â mae Tŷ pawb yn y cwestiwn, tydi Cwpan y Byd heb ddigwydd!

“Ac nid dim ond ni sydd wedi dioddef; mae pob math o bethau wedi’u canslo yma.

“Rydyn ni newydd ddod allan o’r cyfnodau clo ac yn trio datblygu masnach yn ystod y noswaith… ond tydi hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd.”

Busnesau Tŷ Pawb yn yr oes sydd ohoni

Mae Simon Morris hefyd yn berchennog ar y busnes ‘The Personal Present People’ o fewn Tŷ Pawb, gyda stondin lle maen nhw’n cynnig gwasanaeth argraffu amrywiol – crysau-t, mygiau ac ati, a hefyd yn creu pob math o wrthrychau.

Mae’r stondin yn edrych allan ar y gofod lle mae’r Bar Sgwâr yn gweithredu, ac felly mae’r ddau fusnes yn cefnogi ei gilydd yn ystod y dydd.

Yn ystod y nos, maen nhw wedi bod yn trefnu digwyddiadau, gan gynnwys cwis yn ddiweddar.

“Mae Pete Moon yn gwneud un neu ddwy o shifftiau inni y tu ôl i’r bar, a wnaeth o gynllunio a threfnu cwis, ac roedd hi’n noson wych,” meddai Simon Morris.

“Ac rydyn ni’n bwriadu trefnu adloniant i gyd-fynd hefo’r cwis, a rhoi cyfle i berfformwyr newydd gael llwyfan… ond bydd rhaid i hynny aros am rŵan.”

Dywed un o’r masnachwyr eraill fod pethau wedi bod yn dawel hefyd ers i’r plant ddychwelyd i’r ysgol, a bod llai o ddigwyddiadau gydol y dydd wedi’u trefnu’n ddiweddar er mwyn denu cwsmeriaid.

Trigolion a’r sefyllfa gwastraff

Mae diffyg casglu biniau wedi bod yn gostus o ran amser i rai o’r trigolion, ac maen nhw’n flin am hynny, meddai’r artist Paul Eastwood, sy’n byw yn Hightown.

“Dw i eisiau rhyw fath o iawndal ariannol, i wneud yn iawn am deithio yn ôl ac ymlaen i’r sgip, amser a chyfradd y dreth gyngor rydyn ni’n ei thalu.”

Un arall sy’n ategu’r alwad o ran talu trethi yw Louis Bennett, sy’n byw yn Borras.

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n talu trethi anghredadwy mewn rhai ardaloedd, ond dw i ddim yn gweld lle mae’r arian yn mynd, yn enwedig wrth ystyried potholes a graeanu adeg yma’r flwyddyn.”

Mae eraill yn cyfeirio at y ffaith fod angen i’r gweithwyr gael gwell tâl yn yr oes sydd ohoni.

“Dw i’n meddwl bod y gweithwyr yn haeddu cael eu talu’n well, yn arbennig efo’r costau byw ar hyn o bryd,” meddai Debbie Murray, un o drefnwyr Clwb Clebran y Saith Seren sy’n byw yn Rhosddu, wrth golwg360.

“Gobeithio y bydd Cyngor Wrecsam yn gwrando ar y gweithwyr fel eu bod nhw’n gallu mynd yn ôl i’w gwaith yn fuan.”

Mae un o drigolion y ddinas-sir sy’n byw yn Rhosllannerchrugog ac sydd eisiau aros yn ddienw, hefyd yn cyferbynnu’r trethi uchel hefo tâl y gweithwyr.

“Dw i’n rhwystredig fod y dreth gyngor yn cynyddu bob blwyddyn, ond fod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn lleihau,” meddai.

“Mae gweithwyr sbwriel yn haeddu cael eu talu’n iawn – roedden nhw ymhlith y gweithwyr rheng flaen a gadwodd y wlad i redeg yn ystod y pandemig. Felly pam nad yw’r codiadau treth gyngor yn ariannu eu hanghenion cyflog?”

Roedd Rhodri Nicholas, sy’n byw yn Acton, yn angerddol am y streiciau.

“Dw i’n gwybod fod o’n anghyfleus i beidio cael eich biniau wedi’u gwagio,” meddai.

“Ond dw i dros y dosbarth gweithiol.

“Dylen nhw gael pleidlais amdano – power to the people, democracy in action.

Dryswch ynghylch y biniau

Bu trafodaethau niferus am sefyllfa’r biniau ar Facebook, gan gynnwys dryswch y bu rhai yn ei wynebu wrth dderbyn negeseuon cyferbyniol o ran pryd a sut ddylen nhw roi eu biniau allan i’w casglu.

Roedd disgwyl i’r rownd ddiweddaraf o streiciau bara tan ddiwedd mis Tachwedd.

Gyda’r gaeaf yn nesáu, a’r sgil-effaith bosib ar allu’r Cyngor i fynd allan i raeanu’r ffyrdd, ar ben methu â chasglu sbwriel, roedd posibilrwydd y byddai’n cael effaith negyddol ar iechyd cyhoeddus y fro.

Efallai’n wir y byddai wedi bod yn aeaf o anfodlonrwydd yn ninas-sir Wrecsam.

Ond heddiw, daw gobaith y bydd modd osgoi hyn, gan fod cytundeb wedi ei dderbyn gan y naill ochr a’r llall i ddod â’r streiciau i ben.

Mi fydd y sefyllfa’n gwella, ond yn raddol i ddechrau, wrth i’r Cyngor weithio tuag at glirio’r sbwriel.

Y gobaith wedyn yw dychwelyd i’r drefn arferol cyn y streic, ar ddechrau’r wythnos nesaf (Tachwedd 6).

Ymateb Cyngor Wrecsam

“Yn dilyn saith wythnos o weithredu’n ddiwydiannol, yn dilyn pleidlais ymhlith eu haelodau, mae Uno’r Undeb wedi tynnu gweithredu diwydiannol yn ôl, ac wedi derbyn y cynnig gan Gyngor Wrecsam,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Brynhawn heddiw (dydd Gwener, Hydref 27), fe wnaeth Uno’r Undeb hysbysu’r Cyngor fod eu haelodau wedi pleidleisio tros dderbyn y cynnig, dileu’r gweithredu a dychwelyd i’r gwaith ddydd Llun (Hydref 30).”

Mae’r Cyngor yn cydnabod na fu’n bosib iddyn nhw gasglu’r holl sbwriel ac ailgylchu, ond maen nhw’n dweud y byddan nhw’n dosbarthu bagiau sbwriel ac ailgylchu yr wythnos nesaf ar y diwrnodau arferol.

Ond maen nhw’n rhybuddio y bydd casgliadau’n “drymach nag arfer”, ac yn dweud y byddan nhw’n cyhoeddi diweddariadau pellach yr wythnos nesaf.